Pryderon am weinyddiaeth elusen blant y Joshua Foundation

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Adroddiad Steffan Powell

Mae ymchwiliad BBC Cymru wedi darganfod amheuon am sut mae elusen y Joshua Foundation cael ei gweinyddu.

Mae'r elusen yn darparu gwyliau ar gyfer plant sy'n ddifrifol wael.

Ond mae cyfrifon yr elusen yn dangos ei bod wedi gor-hawlio cymorth rhodd ers degawd ac mae mewn dyled o hyd at £400,000 i Gyllid a Thollau EM o ganlyniad.

Cynllun y llywodraeth yw'r cymorth rhodd sy'n caniatáu i elusennau hawlio 25c ceiniog yn ôl am bob punt maen nhw'n ei derbyn gan drethdalwyr, ond mae'n rhaid darparu tystiolaeth o'r cyfraniadau, gan gynnwys manylion personol fel cyfeiriad a chôd post y cyfranwyr.

Dywed yr elusen fod y ddyled yn deillio o gymorth rhodd a hawliwyd ar gam a'i bod yn bwriadu gwerthu ased er mwyn talu'r bil.

Mae hi wedi dod i'r amlwg fod yr elusen, dderbyniodd incwm o £428,000 y llynedd, wedi ei chynghori gan y Comisiwn Elusennau yn 2010 i dalu'r ddyled cyn gynted â phosib.

Pryderon

Sarah Cornelius-Price sefydlodd y Joshua Foundation ym Medi 1998, er cof am ei mab Joshua fu farw o ganser yn Rhagfyr 1998 yn saith oed.

Dywedodd Sarah Cornelius-Price fod yr elusen yn bwriadu gwerthu ased er mwyn talu'r ddyled.

Mae BBC Cymru yn deall fod yr ased wedi ei rhoi i'r elusen yn benodol er mwyn darparu cartrefi gwyliau ar gyfer plant sy'n ddifrifol wael, ac yn ôl cyfrifon yr elusen ni ellir gwerthu'r ased heb ganiatâd llys.

Mae'r elusen wedi helpu cannoedd o blant a phobl ifanc a'u teuluoedd, gan drefnu gwyliau a theithiau ar eu cyfer.

Mae BBC Cymru wedi siarad â rhai teuluoedd oedd yn llawn canmoliaeth o waith y Joshua Foundation.

Mae'r elusen hefyd yn trefnu nifer o basiantau harddwch.

Dyled

Ond mae'r ddyled i Gyllid a Thollau EM wedi ei chofnodi yng nghyfrifon yr elusen ers tua 2003-04.

Mae yna bryderon pellach ynghylch taliadau wnaed gan yr elusen i'r llywydd, Mrs Cornelius-Price, a'i gŵr sydd hefyd yn ymddiriedolwyr.

Dywedodd Martin Price, cadeirydd Sefydliad Codi Arian Cymru, ei fod wedi cysylltu â'r Comisiwn Elusennau yn 2009 i godi pryderon ynghylch y ddyled i Gyllid a Thollau EM a materion eraill.

Dywedodd fod trosiant y Joshua Foundation wedi bod o gwmpas £500,000 yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'r ddyled i Gyllid a Thollau EM yn swm sylweddol, yn cyfateb i rodd i'r elusen o dros £1m.

"Mae hynny'n golygu fod yr elusen wedi honni ei bod wedi derbyn rhoddion gan drethdalwyr o o leia' £1m, efallai mwy, ond nid oedd modd iddyn nhw gadarnhau hynny pan ddaeth staff Cyllid a Thollau EM i wneud archwiliad.

Dywedodd Mrs Cornelius-Price wrth BBC Cymru: "Fe hawlion ni bopeth oedd yn gysylltiedig â'r Oz Experience, ein cynllun tramor, yr un sy'n dod â'r incwm mwyaf i ni.

"Wedyn fe gawson ni wybod nad oes modd hawlio ar gyfer rhywbeth os yw hyn o fudd i rywun.

'Nacáu'

"Felly am fod pobl ifanc yn cael mynd i Awstralia roedd hynny'n golygu bod popeth roedden ni wedi ei hawlio mewn perthynas â hynny yn cael ei nacáu."

Dywedodd Mrs Cornelius-Price, un o gyn enillwyr Gwobr Menyw'r Flwyddyn yng Nghymru, fod Cyllid a Thollau EM yn cadw ceisiadau dilynol cymorth rhodd yr elusen oherwydd yr angen i leihau'r ddyled.

Roedd yn bwriadu talu'r ddyled, rhyw £300,000, yn fuan, meddai.

"Mae gennym ased sy'n werth swm tebyg i'r ddyled. Mae angen delio ag ychydig o faterion cyfreithiol ond fe fyddwn yn cyhoeddi ein bod yn gwerthu'r ased."

Dydy Cyllid a Thollau EM ddim yn gwneud sylw am achosion unigol, ond dywedodd mewn datganiad:

"Rydym yn gweithio gydag elusennau i'w helpu i ad-dalu arian gafodd ei hawlio ar gam o dan y cynllun cymorth rhodd.

"Rydym bob amser yn ceisio gweithio gyda threthdalwyr, gan gynnwys elusennau, gyda threfniadau amser i dalu ble mae hynny'n briodol.

"Pan fetha popeth arall rydym yn cymryd camau gorfodi."

Yn y cyfamser, mae'r cyfrifon yn dangos bod bron i 60% o incwm yr elusen yn 2010-2011 wedi ei wario ar gostau codi arian a rhedeg yr elusen tra bod 42% wedi ei wario ar amcanion yr elusen.

'Yn gymharol fychan'

Dywedodd Martin Price: "Wrth edrych ar gostau'r elusen, yn y cyfrifon diweddaraf, mae tua 40% o'r incwm yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion elusennol, sy'n gymharol fychan o'i gymharu ag elusennau eraill."

Dywed y Joshua Foundation fod hyn oherwydd natur yr Oz Experience, sy'n herio pobl ifanc i godi arian ar gyfer yr elusen yn gyfnewid am gael cymryd rhan mewn taith i Awstralia.

Mae Mrs Cornelius-Price wedi dweud: "Dwi'n meddwl taw hon yw'r ganran ucha' bosib' o gofio mai Oz Experience sy'n codi'r arian mwya'.

Ychwanegodd fod yr Oz Experience yn golygu "bod pobl ifanc yn codi arian i fynd ar daith ac mae 50% yn talu am y daith a'r gweddill yn mynd tuag at ein gwaith ni," a bod yr elusen yn ceisio lleihau'r pwyslais ar y cynllun o'r herwydd.

Mae Sarah Cornelius-Price a'i gŵr wedi derbyn cyflogau am eu gwaith gyda'r elusen yn y gorffennol ac wedi derbyn taliadau trwy gwmni o'r enw Shram Events, cwmni y maen nhw'n ei redeg.

Mae cyfrifon 2010-11 yn dangos bod Shram Events Ltd, sydd wedi ei gofrestru yng nghartref y ddau, wedi derbyn "ffioedd ymgynghori" gwerth £59,987 oddi wrth yr elusen yn ystod y flwyddyn honno.

Amodau llym

Gwnaed taliadau blaenorol o £45,491 i'r cwmni yn 2009-10 - a £22,000 yn 2008-09 - yr un flwyddyn ac y cafodd Sarah Cornelius-Price gyflog o £15,000 gan yr elusen.

Dyw taliadau i ymddiriedolwyr elusen ddim yn anghyfreithlon ond mae canllawiau'r Comisiwn Elusennau yn cynnwys amodau llym, gan gynnwys y ffaith y dylai cyfansoddiad yr elusen gymeradwyo taliadau o'r fath.

Dywedodd Mrs Cornelius-Price: "Beth bynnag oedd neu yw ein dyletswyddau penodol, taliadau oedd y rhain am ein gwasanaethau ... gan ein bod yn rhedeg ein busnes ein hunain ac roedd gennym ein cwmni ein hunain, fe gawson ni gyngor gan gyfrifwyr yr elusen wnaeth ein cynghori mai dyma oedd y ffordd orau i ni gael ein talu am yr hyn roeddem yn ei wneud dros yr elusen.."

Dywedodd ei bod "wedi dysgu ers hynny nad hwn oedd y cyngor gorau efallai" ac erbyn hyn mae hi a'i gŵr yn derbyn cyflogau gan yr elusen unwaith eto.

Deallir fod y Comisiwn Elusennau wedi cynghori'r elusen i ystyried y taliadau yn ystod ymweliad y Comisiwn yn 2009.

Cadarnhaodd y Comisiwn Elusennau eu bod wedi cysylltu â'r Joshua Foundation yn 2009, ac eto yn 2010 wedi i bryderon gael eu codi.

'Mwy o faint'

Cysylltodd â'r elusen ym mis Rhagfyr ar ôl i BBC Cymru gysylltu â'r Comisiwn Elusennau.

Dywedodd llefarydd: "Mae'r elusen yn dal mewn cysylltiad â Chyllid a Thollau EM mewn perthynas â'r ddyled, ac mae'n bwriadu gwerthu ased fel bod modd setlo'r mater yn fuan."

"Mae'r elusen yn ymwybodol fod angen corff ymddiriedolwyr sy'n fwy o faint er mwyn osgoi gwrthdaro buddiannau ... ac maen nhw wedi recriwtio pump sydd â phrofiad o'r gyfraith a chyfrifeg fydd yn dechrau ar eu gwaith ym mis Chwefror."

Mae'r elusen hefyd wedi gwerthu tir yn Awstralia oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cynllun Oz Experience.

Dywed yr elusen y bydd yr arian a godwyd yn cael ei ddefnyddio i ehangu ei gwasanaethau a chreu cronfeydd wrth gefn.Mae ymchwiliad BBC Cymru wedi darganfod amheuon am sut mae elusen flaenllaw yng Nghymru'n cael ei gweinyddu.