Angen mwy o ddiffoddwyr wrth gefn
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrch ar droed i recriwtio diffoddwyr wrth gefn yng ngogledd Cymru - pobl sy'n medru teithio i danau o fewn pum munud.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau recriwtio mewn gorsafoedd ar draws y rhanbarth.
Mae nifer y diffoddwyr wrth gefn yng Nghymru ar ei lefel isaf ers i'r gwasanaeth gael ei ddatganoli yn 2004.
Mae'r gwasanaeth yn dibynnu ar ddiffoddwyr wrth gefn mewn sawl ardal, ond yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad.
Gall pobl sydd ar y gofrestr diffoddwyr wrth gefn gael eu galw allan ar unrhyw adeg o'r dydd a nos i ymateb i alwad 999. Maen nhw'n derbyn cyflog am fod ar gael, a thaliad ychwanegol fesul awr pan maen nhw'n cael eu galw allan.
'Hanfodol'
Eglurodd y dirprwy prif swyddog tân, Ruth Simmons: "Mae diffoddwyr wrth gefn yn darparu gwasanaeth hanfodol i'w hardaloedd.
"Rydym yn chwilio am unigolion addas, yn enwedig rhai sydd ar gael yn ystod y dydd, sy'n medru teithio i'r orsaf dân leol o fewn pum munud o dderbyn galwad.
"Gall y bobl yma fod yn adeiladwyr, nyrsys, gweithwyr ffatri, gwragedd tŷ neu bobl sy'n gweithio gartre yn ystod oriau gwaith, ond fe fyddwn yn gofyn iddyn nhw fod ar gael ar gyfer digwyddiadau brys o bryd i'w gilydd."
Ym mis Tachwedd, roedd ffigyrau'n dangos bod y tri gwasanaeth tân yng Nghymru yn cyflogi 1,039 o ddiffoddwyr wrth gefn, gyda 169 o swyddi gwag.
Arweiniodd hynny at Undeb y Frigâd Dân yn galw am adolygiad o'r sustem diffoddwyr wrth gefn, ac o oriau a chyflog y diffoddwyr.
Yng ngogledd Cymru, mae diffoddwyr wrth gefn yn derbyn tua £2,800 y flwyddyn pan fyddan nhw wedi cymhwyso'n llawn. Rhaid iddyn nhw fod ar gael i weithio dros gyfnod o 120 awr bob wythnos, ac maen nhw'n derbyn taliad fesul awr a ffi aflonyddu pan fyddan nhw'n cael eu galw allan.
Ond yn ne Cymru, mae staff wrth gefn yn derbyn cyflog o £9,750 am fod ar gael am 84 awr.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod yn gobeithio clywed gan ymgeiswyr gwrywaidd a benywaidd sy'n dangos "synnwyr cyffredin, ymroddiad ac ymrwymiad".
Straeon perthnasol
- 8 Awst 2012
- 9 Gorffennaf 2012