Euog o lofruddio milfeddyg

  • Cyhoeddwyd
Clive SharpFfynhonnell y llun, NW Police
Disgrifiad o’r llun,
Plediodd Clive Sharp yn euog i lofruddio Catherine Gowing

Mae dyn 46 oed o Fethesda yng Ngwynedd wedi pledio'n euog i lofruddio milfeddyg o Iwerddon.

Ymddangosodd Clive Sharp yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fore Llun, a chyfaddef iddo ladd Catherine Gowing yn Sir y Fflint ar Hydref 12, 2012.

Cafodd gweddillion Ms Gowing eu darganfod mewn dau safle, un yn Sir y Fflint a'r llall yn ardal Caer.

Roedd Ms Gowing yn wreiddiol o Clonlee ger Birr yn Swydd Offaly.

Ar y noson y diflannodd, cafodd Ms Gowing ei gweld ar gamera cylch cyfyng yn mynd i archfarchnad Asda yn Queensferry am 8:06pm cyn gadael hanner awr yn ddiweddarach.

Cafwyd hyd i'w char yn Alltami, Sir y Fflint, wedi ei losgi'n ulw yn ddiweddarach.

Ffynhonnell y llun, North Wales Police
Disgrifiad o’r llun,
Does neb wedi gweld Catherine Gowing ers Hydref 12

Yn dilyn ymchwiliad pellach gan yr heddlu, fe ddaethon nhw o hyd i weddillion dynol ar ddau safle arall yn yr ardal, ac fe gadarnhaodd ymchwiliad ar y gweddillion eu bod yn perthyn i Ms Gowing.

Gohirio

Cafodd yr achos ei ohirio cyn y caiff Sharp ei ddedfrydu, ond rhybuddiodd y barnwr ei bod hi'n bosib na fyddai fyth yn cael ei rhyddhau.

Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Chwefror 25.

Dywedodd y barnwr nad oedd angen adroddiadau seiciatryddol cyn dedfrydu, ac yn amlwg dim ond un ddedfryd allai fod, sef carchar am oes.

Ond roedd angen amser i ystyried lleiafswm y ddedfryd, ac er ei fod yn ymwybodol y byddai hyn yn ychwanegu at densiwn ac aflonyddu ar deulu Ms Gowing, dywedodd y byddai'n rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i'r mater.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol