Marwolaeth: Arestio wyth o bobl

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn y tu allan i dafarn yng nghanol Caerdydd wedi arestio wyth dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Dywed yr heddlu i'r dyn farw ar ôl digwyddiad y tu allan i O'Neill's ar Heol Eglwys Fair tua 11pm.

Roedd y dafarn ar gau ddydd Llun tra bod heddlu fforensig yn casglu tystiolaeth.

Dywedodd llefarydd ar ran O'Neill's eu bod yn cydweithredu gydag ymchwiliad yr heddlu i'r digwyddiad.

Dylai unrhyw un ag unrhyw wyboaeth gysylltu â Heddlu'r De ar 101 neu Taclo'r Cacle yn ddienw ar 0800 555 111.