Trafod y bennod nesa' mewn hanes tref Y Rhyl

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Heulfan Y Rhyl
Disgrifiad o’r llun,
Gallai'r Heulfan yn Y Rhyl gau fel rhan o gynlluniau i adfywio promenâd Y Rhyl

Bydd Cabinet Cyngor Sir Ddinbych yn cyfarfod i drafod cynlluniau gwerth miliynau o bunnoedd i ailddatblygu promenâd Y Rhyl.

Mae'r cynlluniau ar gyfer arfordir y dre' yn cynnwys ailwampio'r Heulfan, Theatr y Pafiliwn a Phentref y Plant.

Yn ogystal, mae'r adroddiad - gaiff ei drafod ddydd Mawrth - yn edrych ar yr angen i wneud gwaith cynnal a chadw ar frys i sicrhau adeilad y Tŵr Awyr.

Mae disgwyl i'r gwaith hwnnw gostio £35,000.

Petai'r cynlluniau yn cael sêl bendith, gallai arwain y ffordd at uwchraddio cyfleusterau hamdden a thwristiaeth Y Rhyl yn sylweddol, creu swyddi newydd a hybu rhagor o fuddsoddiad preifat yn y dre'.

£10 miliwn

Byddai'r argymhellion - sydd wedi cael cefnogaeth lawn cynghorwyr yn Y Rhyl - hefyd yn mynd i'r afael â materion eraill, fel addasrwydd yr Heulfan fel atyniad ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Gallai'r adeilad gael ei ddymchwel, yn ogystal â phwll nofio 30 oed canolfan hamdden y dref.

Byddai canolfan newydd gwerth £10 miliwn yn cael ei godi ar y promenâd.

Petai'r Heulfan yn cael ei ddymchwel bydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer adnewyddu Theatr y Pafiliwn sydd ynghlwm wrtho ar hyn o bryd, gyda mynedfa a ffasâd newydd yn cael eu creu.

Un arall o amcanion y cynllun fyddai diogelu dyfodol y Tŵr Awyr.

Os bydd y Cabinet yn cymeradwyo'r argymhellion, bydd y gwaith ar ail gam y rhaglen yn dechrau, sy'n cynnwys creu briff dylunio ac adolygiad manwl yn arwain at gyflwyno cais cynllunio.

Dywedodd arweinydd y cyngor, Hugh Evans: "Mae llawer iawn o waith wedi'i wneud yn paratoi'r adroddiad hwn ac mae'n cynnig cynllun gweithredu realistig i drawsnewid darpariaeth hamdden y dre'."

Ychwanegodd pennaeth Cyfathrebu, Marchnata a Hamdden y cyngor, Jamie Groves: "Hyd yn oed yng nghanol cyfnod economaidd anodd, mae'r adroddiad yma'n dangos fod Sir Ddinbych yn benderfynol o fuddsoddi mewn gwasanaethau hamdden, a'n bod yn rhoi hamdden, iechyd a lles ein pobl wrth galon agenda adfywio'r cyngor.

"Rydym yn nesáu at yr amser pan fydd yn rhaid derbyn fod yr Heulfan yn cyrraedd diwedd ei thaith fuddiol fel canolfan ddŵr a byddwn yn cydweithio gyda chwmni Clwyd Leisure i ddatblygu darpariaeth arall ar gyfer yr arfordir."

Meddai Tom Booty, rheolwr Y Rhyl yn Symud Ymlaen: "Mae 'na lawer iawn o waith yn cael ei wneud i drawsnewid y dre' ac rydym yn ymwybodol bod angen darparu cyfleusterau cyfoes ac effeithiol, fydd yn gwella bywyd y trigolion ac yn denu ymwelwyr hefyd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol