Cyhoeddi enw wedi marwolaeth yn y brifddinas
- Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw'r dyn a fu farw yn dilyn digwyddiad yng nghanol Caerdydd dros y penwythnos.
Bu farw Lyn Prosser, 44, o Beddau, Pontypridd, yn dilyn digwyddiad y tu allan i O'Neill's ar Heol Eglwys Fair tua 11pm nos Sul.
Roedd y dafarn ynghau ddydd Llun tra bod heddlu fforensig yn casglu tystiolaeth.
Mae archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ar gorff Mr Prosser.
Mae wyth dyn rhwng 24 a 48 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac maen nhw'n parhau yn y ddalfa.
Dywedodd llefarydd ar ran O'Neill's eu bod yn cydweithredu'n llawn gydag ymchwiliad yr heddlu.
Yn y cyfamser, mae teulu Mr Prosser yn cael cefnogaeth gan swyddogion cyswllt yr heddlu.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Hurley, o Heddlu De Cymru: "Rydym yn meddwl am deulu Mr Prosser ar yr amser hynod anodd yma.
"Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ac a welodd yr hyn ddigwyddodd, unai'r tu mewn neu'r tu allan i O'Neill's i gysylltu â ni."
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth ffonio Gorsaf Heddlu Caerdydd Ganolog ar 02920 527 303, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ionawr 2013