Cooke yn ymosod ar "dwyllwyr" wrth ymddeol o'r gamp

  • Cyhoeddwyd
Nicole CookeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Cooke ei bod wedi gwrthod cynnig i gymryd gyffuriau i wella ei pherfformiad pan oedd hi'n 19 oed

Mae'r gyn-bencampwraig Olympaidd, Nicole Cooke, wedi ymosod ar "dwyllwyr" y gamp wrth gyhoeddi ei bod yn ymddeol o seiclo.

Enillodd Cooke, 29 oed, y fedal aur yn y ras ffordd y merched yng Ngemau Olympaidd Beijing yn 2008.

Ar y pryd hi oedd yr athletwr cyntaf o Gymru i ennill medal aur ers 36 o flynyddoedd.

Cafodd ei geni yn Abertawe ond fe'i magwyd yn Y Wig ym Mro Morgannwg.

Lance Armstrong

Dywedodd Cooke ei bod wedi gwrthod cynnig i gymryd cyffuriau yn ystod ras Tour de France pan oedd hi'n 19 oed.

"Cefais fy ngwahodd i un o gerbydau'r tîm a chefais gynnig "meddyginiaethau" fyddai'n fy helpu gan gael f'atgoffa nad oeddwn yn cyrraedd y safon roedd y tîm yn disgwyl ohonof.

"Dywedais y byddwn i'n gwneud fy ngorau glas yn y ras ond fydden i ddim yn cymryd unrhyw beth."

Disgrifiad o’r llun,
Enillodd y fedal aur yn y ras ffordd i ferched yng Ngemau Olympaidd Bejing yn 2008

"Rwyf ar fy ngolled oherwydd twyllwyr sy'n cymryd cyffuriau ond rwy'n ffodus am fy mod wedi ennill llawer o fedalau.

"Ond mae llawer o bobl sydd wedi seiclo heb gymryd cyffuriau wedi gorfod gadael y gamp gyda dim byd ar ôl oes o waith caled."

Ychwanegodd na ddylai pobl ddangos unrhyw gydymdeimlad tuag at Lance Armstrong, fydd yn cael ei gyfweld gan Oprah Winfrey ar deledu yn America'r wythnos hon.

Cwpan y Byd

Enillodd Armstrong gystadleuaeth Tour de France saith gwaith ond collodd pob un o'r teitlau hyn yn dilyn adroddiad wnaeth ddatgan ei fod wedi defnyddio cyffuriau i wella ei berfformiad.

"Rwy' wedi seiclo yn ystod rhai o ddyddiau mwyaf du'r gamp o ran llygredd gan dwyllwyr," meddai.

"Ond rwy'n falch iawn 'mod i wedi bod yn onest ac wedi seiclo heb gymryd cyffuriau."

Dim ond yn 2002 y gwnaeth Nicole Cooke droi'n broffesiynnol gan ennill y fedal aur yng Ngemau'r Gymanwlad ym Manceinion.

Erbyn 2003 roedd wedi ennill Cwpan y Byd a gorffen yn drydedd ym Mhencampwriaeth y Byd.

Yn ei Gemau Olympaidd cyntaf yn 2004, daeth yn bumed yn ras ffordd y merched - arwydd o'r llwyddiant i ddod.

Torrodd bont ei hysgwydd yn 2005, ond fe ddaeth blwyddyn arall wych iddi yn 2006 gan gipio'r fedal efydd yn Gemau'r Gymanwlad a gorffen y tymor ar frig rhestr detholion y byd.

Ond 2008 oedd ei blwyddyn fwyaf.

Yn ogystal â chipio'r fedal aur yn ras ffordd y merched yn y Gemau Olympaidd yn Beijing, enillodd Bencampwriaeth y Byd hefyd.

Mae hi hefyd wedi ennill Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru yn 2003.

Er hynny bu'r ddwy flynedd ddiwethaf yn rhai anodd, ac er iddi gael ei henwi yng ngharfan Team GB ar gyfer Llundain 2012, Lizzie Armistead gafodd ei dewis fel arweinydd y tîm yn y ras ffordd.

Cipiodd Armistead y fedal arian ond gorffenodd Cooke yn y 31ain safle.

Gorffennodd yn y 60ain safle ym Mhencamwriaeth y Byd ym mis Medi, mwy na phum munud yn arafach na'r enillydd, Marianne Vos.