Y llofrudd Brian Grady wedi methu dychwelyd i garchar agored Prescoed
- Cyhoeddwyd

Mae dyn, a lofruddiodd samariad trugarog wnaeth geisio ymyrryd mewn achos o ddwyn ffôn symudol ym Mryste, wedi dianc o garchar agored.
Cafodd Brian Grady, 26 oed o Fryste, ei ddyfarnu'n euog o ladd Liam Attwell yn ardal Canon's Marsh o'r ddinas yn 2003.
Cafodd ei ddedfrydu i dreulio o leiaf 11 mlynedd dan glo am y llofruddiaeth a'r lladrad yn Llys y Goron Bryste.
Dywedodd Heddlu Gwent bod Grady, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Brian Revill, wedi methu dychwelyd i Garchar Prescoed ddydd Llun.
Mae'r heddlu yn credu y gallai fod yn ardal Bryste gan fod ganddo gysylltiadau yno.
Cafodd ei ddisgrifio fel dyn 5 troedfedd 11 modfedd o daldra, o faint canolig, a chanddo wallt byr brown a llygaid glas.
Mae ganddo graith o dan ei lygad chwith ac mae ganddo acen Bryste.
Mae'r heddlu yn cynghori pobl i beidio cysylltu gyda fo ac i gysylltu gyda'r heddlu os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth.