Enwau hen a newydd yng ngharfan Cymru ar gyfer y Chwe Gwlad

  • Cyhoeddwyd
Sam WarburtonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Sam Warburton yn dychwelyd i arwain Cymru yn erbyn Seland Newydd

Mae Rob Howley a'i dîm hyfforddi wedi enwi carfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013.

Mae'n cynnwys pum chwaraewr sydd heb ennill cap dros eu gwlad.

Bydd y ddau brop Adam Jones a Craig Mitchell hefyd yn dychwelyd wedi anafiadau.

Sam Warburton fydd yn arwain y tîm wrth iddyn nhw geisio amddiffyn eu teitl.

Bydd ei gyd-chwaraewyr gyda'r Gleision, Josh Navidi ac Andries Pretorius yn ymuno ag o yn y rheng ôl.

Mae James King (Gweilch) ac Andrew Coombs (Dreigiau) hefyd wedi'u henwi yn y garfan am y tro cynta', ynghyd â'r asgellwr Eli Walker (Gweilch).

Doedd Rhys Priestland (Scarlets) ddim ar gael i'r garfan oherwydd anaf.

'Carfan brofiadol'

Bydd enillwyr y Camp Lawn 2012 yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, Chwefror 2, cyn teithio i Baris i herio Ffrainc y penwythnos canlynol.

"Rydym wedi rhoi carfan brofiadol at ei gilydd, ynghyd â gallu cynnwys chwaraewyr newydd sydd wedi profi eu doniau," meddai Howley.

"Mae'r chwaraewyr i gyd wedi bod yn chwarae'n dda iawn ac rydym yn hapus iawn gyda'u perfformiadau unigol.

"Mae gennym grŵp o chwaraewyr sy'n gwybod sut i ennill gemau mawrion ac sydd wedi blasu llwyddiant.

"Ar hynny, rydym yn ychwanegu chwaraewyr sydd wedi disgleirio ac wedi perfformio'n dda i'w rhanbarthau'r tymor hwn."

Yn ogystal, mae hyfforddwr ymosod y Scarlets, Mark Jones, yn ymuno fel Hyfforddwr Cynorthwyol i'r olwyr. Roedd eisoes wedi'i gynnwys yn y tîm hyfforddi ar gyfer taith Cymru i Japan dros yr haf ond bydd nawr yn rhan o'r ymgyrch Chwe Gwlad cyn dychwelyd at y Scarlets ar ddiwedd y gystadleuaeth.

Carfan Cymru: Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2013

Blaenwyr:

Scott Andrews (Gleision), Craig Mitchell (Caerwysg), Adam Jones (Gweilch) Paul James (Caerfaddon), Gethin Jenkins (Toulon), Ryan Bevington (Gweilch), Richard Hibbard (Gweilch), Ken Owens (Scarlets), Matthew Rees (Scarlets), Ryan Jones (Gweilch) Lou Reed (Gleision), Ian Evans (Gweilch), James King (Gweilch), Andrew Coombs (Dreigiau), Josh Turnbull (Scarlets), Josh Navidi (Gleision), Aaron Shingler (Scarlets), Justin Tipuric (Gweilch), Sam Warburton (Scarlets), Toby Faletau (Dreigiau), Andries Pretorius (Gleision)

Olwyr:

Tavis Knoyle (Scarlets), Mike Phillips (Bayonne), Lloyd Williams (Gleision), Dan Biggar (Gweilch), James Hook (Perpignan), Jonathan Davies (Scarlets), Jamie Roberts (Gleision), Scott Williams (Scarlets) Alex Cuthbert (Gleision), George North (Scarlets), Eli Walker (Gweilch), Leigh Halfpenny (Gleision), Liam Williams (Scarlets), Lee Byrne (Clermont)

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol