Arglwydd Williams o Ystumllwynarth
- Cyhoeddwyd

Cafodd Dr Rowan Williams ei dderbyn yn ôl i Dŷ'r Arglwyddi ddydd Mawrth
Mae Dr Rowan Williams, cyn Archesgob Caergaint, wedi cael ei dderbyn yn ôl yn swyddogol i Dŷ'r Arglwyddi.
Cafodd Dr Williams, 61, ei gyflwyno fel yr Arglwydd Williams o Ystumllwynarth.
Roedd eisoes wedi eistedd fel un o'r Arglwyddi Ysbrydol, 26 o Esgobion Eglwys Lloegr sydd â sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi.
Derbyniodd urddolaeth am oes wedi ei ymddeoliad fel Archesgob Caergaint ar ôl 10 mlynedd yn y swydd.
Penderfynodd ildio'r awenau ar ddiwedd 2012 er mwyn ymgymryd â swydd fel Meistr Coleg Madlen, Prifysgol Caergrawnt.
Yn fab i beiriannydd mwyngloddio, cafodd Rowan Williams ei eni yn Abertawe yn 1950 a chafodd ei addysg yn Ysgol Uwchradd Dinefwr ynghanol y ddinas.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2012