Arddangosfa'n dilyn Taith Fawr Syr Watkin

Llun gan Richard Wilson Image copyright Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Image caption Roedd Syr Watkin yn noddwr i Richard Wilson a oedd yn artist preswyl ar ei stad yn Rhiwabon

Mae arddangosfa newydd yn Amgueddfa Wrecsam yn dangos sut y daeth dyn o Riwabon yn un o noddwyr mwyaf y celfyddydau yng Nghymru.

Mae Gwyliau i'r Brenin: y Daith Fawr, celf a Chymru yn astudio effaith y daith gymerodd Syr Watkin Williams Wynne yn yr Eidal ar ei gefnogaeth o'r celfyddydau yng Nghymru.

Treuliodd Syr Watkin naw mis yn teithio o gwmpas yr Eidal fel rhan o'i Daith Fawr.

Syr Watkin Williams-Wynn (1749-89) oedd y un o noddwr celfyddydau mwyaf Cymru erioed.

Roedd yn berchen ar stad o dros 100,000 erw yng ngogledd Cymru a Swydd Amwythig a'i brif gartref oedd Wynnstay, ger Rhiwabon.

'Arbenigwr gwybodus'

Roedd yn gasglwr darluniau'r hen feistri a rhoddodd gyfle i ddwsinau o benseiri, arlunwyr a cherddorion i gynhyrchu rhai o'u gweithiau gorau.

Roedd yn draddodiad i fonheddwyr ifanc yn y 18fed Ganrif dreulio amser yn teithio yn Ewrop er mwyn dysgu mwy am gelfyddyd ac ieithoedd gwledydd fel Ffrainc a'r Eidal.

Dychwelodd Syr Watkin o'i Daith Fawr ym mis Chwefror 1769 yn arbenigwr gwybodus ar y celfyddydau.

Image copyright Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan
Image caption Credir i Syr Watkin brynu'r felfed ar gyfer y got yma tra roedd ar ei Daith Fawr

I nodi ei ben-blwydd yn 21ain oed y flwyddyn ddilynol, gofynnodd i Richard Wilson, y tirluniwr ffasiynol, fod yn arlunydd preswyl yn Wynnstay.

Bydd esiamplau o luniau o'r Eidal a Chymru gan Richard Wilson a hefyd Thomas Jones i'w gweld yn yr arddangosfa yn ogystal â chot felfed sydd wedi ei benthyg gan Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Roedd Syr Watkin yn hoff o brynu dillad ac yn gwario llawer o arian ar ei deiliwr yn Llundain.

Mae'r arddangosfa'n rhan o brosiect Cyfoeth Cymru Gyfan sydd yn helpu amgueddfeydd lleol i adeiladu partneriaethau gyda sefydliadau cenedlaethol yng Nghymru a thu hwnt.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Mae Gwyliau i'r Brenin yn enghraifft wych o rannu'r trysorau sydd yn ein casgliadau cenedlaethol gyda chymunedau o amgylch Cymru.

"Rwy'n arbennig o falch bod dau lun pastel o Syr Watkin a'i wraig yn cael eu benthyg am y tro cyntaf i amgueddfa yng ngogledd ddwyrain Cymru yn ogystal â gwaith arian eglwys Rhiwabon a gomisiynwyd gan Syr Watkin."

Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth: "Rydym yn falch iawn o fod yn gallu cefnogi'r arddangosfa Rhannu Trysorau hon yn Amgueddfa Wrecsam, yn arbennig oherwydd i gymaint o waith ymchwil i'r cefndir gael ei wneud yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gan ddefnyddio deunydd o'r archif sydd yn ein gofal megis dogfennau Wynnstay."

Bydd yr arddangosfa'n dechrau ar Ionawr 21 ac yn gorffen ar Ebrill 13.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.