14 mis o garchar am ladd beiciwr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 45 oed wedi cael ei garcharu am 14 mis a'i wahardd rhag gyrru am 18 mis yn dilyn marwolaeth beiciwr yn Sir y Fflint y llynedd.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug nad oedd John James Evans o'r Fflint wedi gweld y beiciwr - Alan Mort o Fae Cinmel - cyn taro cefn ei feic ar y ffordd ddeuol rhwng y Fflint a Bagillt.
Yn y gwrandawiad ddydd Mawrth, newidiodd Evans ei ble gan gyfadde' achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry bod Evans "wedi achosi marwolaeth cwbl ddianghenraid" Mr Mort.
Ychwanegodd y barnwr bod Mr Mort wedi buddsoddi yn yr offer diogelwch gorau a'i fod yn gyrru ei feic mewn llinell syth ar hyd ochr y ffordd.
Colled ofnadwy
Roedd dau yrrwr arall oedd yn gyrru y tu ôl i Evans wedi gweld y beiciwr, a doedd yr un o'r ddau yn medru credu nad oedd Evans wedi ei weld yn ogystal.
Roedd Evans yn ddyn gweithgar o gymeriad da, ac yn ddyn teuluol oedd yn uchel ei barch gan ei gyflogwr, ac roedd yn edifar o waelod calon.
Ond dywedodd y barnwr bod Mr Mort wedi marw gan achosi colled ofnadwy i'w deulu.
"Mae gan yrwyr gyfrifoldeb mawr i fod yn ymwybodol o feicwyr ar y ffordd," meddai Mr Parry wrth ddedfrydu Evans i 14 mis o garchar, ei wahardd rhag gyrru am 18 mis a'i orchymyn i sefyll prawf gyrru estynedig cyn cael ei drwydded yrru yn ôl.
Straeon perthnasol
- 6 Chwefror 2012
- 6 Chwefror 2012