Digon o raean gan gynghorau wrth i'r tywydd oer barhau
- Published
Wrth i'r cyfnod o dywydd oer barhau, dywed cynghorau Cymru fod ganddyn nhw dros 200,000 tunnell o raean yn barod.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd y llynedd fod gan yr awdurdodau 243,000 tunnell o raean ar ddechrau'r gaeaf, ac ychydig iawn o ddefnydd ohono sydd wedi bod ers hynny.
Mae'r ffigwr yn cymharu'n ffafriol â'r 137,000 tunnell oedd ar gael dros yr un cyfnod yn 2010, pan gafodd y DU gyfnod estynedig o dywydd rhewllyd iawn.
Mae disgwyl i'r tywydd oer barhau, ac mae disgwyl y bydd eira sylweddol yn lluwchio ar draws Cymru ddydd Gwener.
Er bod y gaeaf diwethaf yn gymharol fwyn, mae nifer o awdurdodau lleol wedi cynyddu'r stoc o raean yn dilyn gaeafau oer 2009 a 2010.
Mae'r ffigwr o 243,000 tunnell yn cynrychioli cyfanswm stoc Llywodraeth Cymru a'r cynghorau unigol gyda'i gilydd.
'Paratoi yn dda'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ychydig iawn o halen a graean sydd wedi ei ddefnyddio, ac mae'r stoc drwy Gymru yn parhau ar lefel uchel o 200,000 tunnell."
Roedd Cymru gyfan wedi "paratoi yn dda ar ddechrau'r gaeaf" medd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac roedd y cynghorau a Llywodraeth Cymru wedi gweithio i sicrhau "mwy o hyblygrwydd ar lefel genedlaethol".
Dywedodd llefarydd o'r Gymdeithas: "Er y gallai cyfnodau hir o eira arwain yn anorfod at y stoc yn mynd yn gyflym, bydd trafodaethau gyda chyflenwyr i awdurdodau Cymru yn sicrhau y gallwn ail-gyflenwi mewn modd strategol dros gyfnod y gaeaf."
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Ionawr 2013
- Published
- 9 Ionawr 2010