Dicter wrth i dân losgi am 10 diwrnod
- Cyhoeddwyd

Mae trigolion sy'n byw ger tomen wastraff sydd wedi bod ar dân ers 10 niwrnod yn dweud bod arogl mwg ar eu cartrefi bellach.
Mae diffoddwyr wedi bod yn ceisio diffodd y tân ar safle A Lewis and Co yn Nant-y-glo, Blaenau Gwent.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wrth gyfarfod cyhoeddus nos Fawrth nad oedd trwydded y safle wedi cael ei lynu ato yn llwyr.
Ond dywedodd cynrychiolydd perchennog y safle y gallai sefyllfa fod wedi cael ei datrys pe bai'r awdurdod lleol wedi caniatáu i'r gwastraff gael ei symud oddi yno'n gynt.
Mae llawer o'r trigolion yn dweud bod arogl mwg ar eu cartrefi a'u ceir erbyn hyn, ac maen nhw'n anhapus bod y tân wedi bod yn llosgi ers cyhyd.
Monitro
Dywedodd swyddogion iechyd amgylcheddol Cyngor Blaenau Gwent wrth y cyfarfod bod profion yn dangos nad yw'r llygred aer wedi cyrraedd lefel peryglu eto, ond y byddai'r monitro'n parhau yno.
Ychwanegodd y cyngor eu bod yn gweithio gyda Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ddiffodd y tân a'u bod yn disgwyl i hynny ddigwydd o fewn y dyddiau nesaf.
Nid yw'r awdurdod yn gwybod sut y dechreuodd y tân ar hyn o bryd.
Mewn datganiad, dywedodd y cyngor: "Mae llawer o wastraff wedi cael ei symud o'r safle yr wythnos hon gan alluogi'r Gwasanaeth Tân i ynysu a thaclo'r tân."
Ychwanegodd y datganiad y byddai ymchwiliad yn dechrau wedyn i weld os mai troseddau amgylcheddol oedd yn gysylltiedig â chynnau'r tân, ac y byddai'r cyngor yn gweithredu os mai dyna oedd yr achos.
'Cymdogion da'
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd bod trwydded y safle yn caniatau 720 tunnell o wastraff yno, ac nad oedd hynny maint y gwastraff wedi mynd y tu hwnt i hynny.
Ond roedd rhai elfennau o drwydded y perchennog oedd heb gael eu glynu atynt yn ymwneud â throsiant y gwastraff ar y safle.
Roedd hyn yn dilyn cwynion gan drigolion bod y domen sbwriel wedi bod yn tyfu cyn i'r tân gynnau.
Wedi'r cyfarfod dywedodd Rhys Williams ar ran A Lewis and Co bod y cwmni bob tro'n ceisio glynu at amodau eu trwyddedau.
"Does neb yn gwybod achos y tân hyd yma, boed hynny'n fwriadol neu yn ddigymell - mae'r mater yna yn nwylo'r pennaeth tân ac yn wir yr heddlu," meddai.
"Rydym am fod yn gymdogion da. Rydym yn cyflogi 30 o bobl leol ac mae'n ddrwg iawn gennym am y digwyddiad yma, sydd ddim o'n dymuniad na'n bai ni.
"Fe wnaethon ni ofyn i Gyngor Blaenau Gwent am yr hawl i symud peth o'r deunydd a aeth ar dân ar eu tir yn ddiweddarach, ond gwrthodwyd hynny.
"Wedyn fe wnaethon ni ofyn i'r Haelod Cynulliad i gysylltu gyda Chyngor Blaenau Gwent i ofyn iddyn nhw ailystyried."
Ychwanegodd bod y cyngor wedi cytuno nos Sul, a'u bod "wedi ceisio symud pethau gorau gallwn ni ers hynny".