Dros 500 wedi yfed a gyrru

  • Cyhoeddwyd
Silhouetted motorist gives a breath test to a police officerFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth 502 o yrwyr fethu prawf anadl trwy Gymru yn ystod mis Rhagfyr

Cafodd dros 500 o yrwyr eu dal yn ystod Ymgyrch Atal Yfed a Gyrru heddluoedd Cymru dros y Nadolig.

Yn ystod yr ymgyrch, cafodd 35,493 o yrwyr brawf anadl rhwng Rhagfyr 1, 2012 ac Ionawr 1, 2013.

Fe gafodd mwyafrif y profion - 18,780 - eu gwneud yn ardal Heddlu Gogledd Cymru, gyda 107 o'r rheini yn bositif.

Y ddau brawf uchaf oedd 147 a 142 mg o alcohol yn y gwaed - y mwyafswm cyfreithiol yw 35 - ac fe gafodd y ddau berson yna eu herlyn yn y llysoedd.

Drwy'r flwyddyn

Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing, pennaeth Uned Blismona Ffyrdd Heddlu'r Gogledd: "Er ein bod wedi cyhoeddi rhybuddion yn ystod yr ymgyrch, fe ddewisodd 107 o bobl anwybyddu'r rhybuddion, gan beryglu eu bywydau a bywydau eraill drwy dorri'r gyfraith.

"Mae hynny'n siomedig iawn.

"Ond y newyddion da yw na chafodd neb eu lladd na'u hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd gogledd Cymru gan rywun oedd yn yfed a gyrru yn ystod yr ymgyrch.

"Ein prif nod oedd codi ymwybyddiaeth y byddai pobl yn cael eu cosbi waeth pa adeg o'r dydd y bydden nhw'n cael eu dal, boed hynny'n mynd i'r gwaith y diwrnod canlynol neu fynd â'r plant i'r ysgol."

"Efallai bod ymgyrch y Nadolig ar ben am eleni, ond fe fydd ein hymdrechion i daclo yfed a gyrru yn parhau 365 diwrnod y flwyddyn - gwrandewch ar y rhybudd!"

Cyhoeddodd yr heddlu hefyd apêl, sef gofyn i bobl sydd â gwybodaeth am rywun yr ydych yn credu sy'n gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau i gysylltu gyda'r heddlu drwy ffonio 101, neu Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol