Wardeniaid traffig i ddychwelyd i strydoedd y Fro
- Cyhoeddwyd

Bydd wardeniaid traffig yn cerdded strydoedd Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf ers dwy flynedd ym mis Ebrill.
Mae'r ddau awdurdod lleol wedi uno i ailgyflwyno wardeniaid wrth i'r heddlu roi'r gorau i wasanaeth wardeniaid traffig y siroedd ar ddiwedd mis Mawrth.
Bydd 17 Swyddog Gorfodi Sifil (SGS) yn gweithio saith niwrnod yr wythnos gan gynnwys Gwyliau'r Banc.
Bydd 12 ohonynt yn gweithio yn sir Pen-y-bont ar Ogwr a phump ym Mro Morgannwg.
'Gwella'r sefyllfa'
Dywedodd Paul Haley, cadeirydd cymdeithas Pride yn y Barri ei fod yn croesawu'r cynllun.
"Bydd perchnogion siopau ar y stryd fawr yn awyddus i'r wardeniaid ddychwelyd," meddai.
"Mae pobl yn gallu parcio eu ceir am ddwy awr ar un ochr o'r stryd ond mae pobl sy'n gweithio mewn swyddfeydd yn parcio yno drwy'r dydd, sydd wrth gwrs yn atal siopwyr rhag parcio.
"Mae'r stryd fawr yn dibynnu ar nifer o bobl yn parcio yno am gyfnod byr."
Dywedodd Mike Gregory, aelod y cabinet ar gyfer Adnoddau: "Mae nifer o gynghorau eraill yng Nghymru eisoes wedi lansio cynlluniau gorfodi parcio sifil ond mae'r bartneriaeth rhwng Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr yn unigryw.
"Bydd y cynllun yn gwella'r sefyllfa i ymwelwyr, busnesau a thrigolion."
Mae'r cynghorau yn bwriadu rhoi dirwy o £50/£70 ond fydd gyrwyr ond yn gorfod talu ei hanner os byddan nhw'n talu o fewn 14 diwrnod.
Ond bydd y ddirwy yn cynyddu i £75/£105 os bydd pobl yn hwyr yn talu.
Ym mis Mehefin y llynedd, dychwelodd wardeniaid traffig i strydoedd Ceredigion am y tro cyntaf ers blwyddyn.
Dywedodd cyngor Ceredigion ar y pryd fod yna oedi oherwydd bod angen amser i drefnu'r system newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2010
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2009