Canolfan iechyd y Gurnos yn cau
- Cyhoeddwyd

Mae canolfan iechyd ar Stad y Gurnos ym Merthyr Tudful wedi ei chau yn sgîl pryderon am iechyd a diogelwch.
Bydd yr 1,600 o gleifion ar gofrestr y ganolfan yn cael eu trosglwyddo i Feddygfa Morlais yn Nowlais neu Barc Iechyd Keir Hardie yn y dre'.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Cwm Taf, er bod llai o wasanaethau wedi cael eu cynnig yn y ganolfan iechyd ers chwe mis, mae'r ganolfan yn cael ei chau oherwydd pryderon am gyflwr yr adeilad.
Daw'r penderfyniad wedi adroddiad gyfeiriodd at y perygl i gleifion a staff.
Dywedodd Bernadine Rees, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl: "Dyw e byth yn benderfyniad hawdd i gau canolfan iechyd.
"Ond mae cyflwr y ganolfan iechyd yn golygu nad yw'n addas ar gyfer rhoi triniaeth i gleifion.
"Mae'r bwrdd iechyd wedi cydweithio â Meddygfa Morlais i sicrhau bod digon o le ar gael i gleifion o ardal Y Gurnos ... fydd trefniadau newydd ddim yn achosi llawer o drafferth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd28 Rhagfyr 2012