Datgladdu corff wedi 30 mlynedd
- Cyhoeddwyd

Fe fydd heddlu sy'n ceisio canfod enw dyn a gafodd ei gladdu ar Ynys Môn 30 mlynedd yn ôl yn datgladdu'r corff yn ddiweddarach.
Canfuwyd corff y dyn yn y môr ger arfordir Môn yn 1983, ond er gwaetha' ymchwiliad diflino ar y pryd, ni lwyddwyd i wybod pwy oedd y dyn.
Cafodd ei gladdu ym Mhorthaethwy, ond y bwriad nawr yw defnyddio technegau DNA i ganfod pwy yw'r dyn.
Roedd y datgladdu i fod i ddigwydd ym mis Tachwedd, ond gohiriwyd hynny er mwyn sicrhau eglurdeb ar fater cyfreithiol.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi caniatáu trwydded ar gyfer y datgladdu, ac mae'r crwner lleol wedi cael ei hysbysu am y digwyddiad.
Bydd mynwent Porthaethwy ar gau am y diwrnod wrth i'r heddlu ac arbenigwyr fforensig godi'r gweddillion a'u cludo i gael eu harchwilio.
'Emosiynol'
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Don Kenyon o Heddlu Gogledd Cymru: "Nid yw amgylchiadau marwolaeth y dyn yma yn amheus, ond rydym yn ceisio adnabod y corff yn iawn er mwyn y teulu.
"Bydd y broses yn golygu tynnu samplau o DNA a'u cymharu gyda samplau eraill gan bobl allai fod yn perthyn iddo.
"Mae'r teulu yn ymwybodol o'r datgladdu, ac yn cefnogi'r weithred.
"Fe fydd yn gyfnod emosiynol iddyn nhw, ac maen nhw wedi cael sicrwydd y bydd y broses yn digwydd yn y modd mwyaf urddasol a sensitif."
Mae teuluoedd y bobl sydd wedi eu claddu yn y beddau cyfagos hefyd wedi cael gwybod am y datgladdu.
Gobaith yr heddlu yw y bydd canlyniadau'r dadansoddiad DNA yn barod o fewn tair wythnos.