Cwmni Blockbuster yn nwylo gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd

Mae'r cwmni rhentu DVDs a gemau fideo, Blockbuster, wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Ym Mhrydain mae 'na dros 500 o siopau ac mae 'na o leia' 24 ohonyn nhw yng Nghymru.
Yn y gogledd mae'r siopau ym Mangor, Bae Colwyn, Prestatyn a Wrecsam.
Yn y de mae'r siopau yn Aberdâr, Y Barri, Y Coed Duon, Pen-y-bont, Caerffili, Caerdydd (3), Glyn Ebwy, Maesteg, Merthyr, Castell-nedd, Casnewydd, Penarth ac Abertawe (4).
Mae un yn Aberhonddu ac un yn Llanelli.
Masnachu
Ym Mhrydain mae 'na bryder am ddyfodol 4,000 o staff.
Dywedodd Deloitte, y cyfrifwyr sy'n rhedeg y cwmni, y byddai Blockbuster yn dal i fasnachu wrth iddyn nhw geisio chwilio am brynwr newydd.
"Rydym yn cydweithio â chyflenwyr a gweithwyr fel y bydd y sail orau cyn gwerthu'r busnes ...
"Mae craidd y busnes yn broffidiol o hyd."
Yn ystod y cyfnod, meddai, byddai cardiau rhodd yn cael eu hanrhydeddu.