Helpu dyn i ddianc o Garchar Prescoed: Arestio dau

  • Cyhoeddwyd
Carchar Prescoed
Disgrifiad o’r llun,
Dihangodd Brian Grady, 26 oed (ei enw arall yw Brian Revill) ddydd Llun.

Mae'r heddlu wedi arestio dyn 37 oed a menyw 34 oed o Fryste ar amheuaeth o helpu llofrudd i ddianc o Garchar Prescoed ger Brynbuga.

Dihangodd Brian Grady, 26 oed (ei enw arall yw Brian Revill) ddydd Llun.

Cafodd Grady o Fryste isafwsm o 11 mlynedd yn 2003 am lofruddio Liam Attwell.

Roedd Mr Attwell wedi ei drywanu pan heriodd griw o bobl ifanc oedd yn ceisio dwyn ffôn symudol.

Dywedodd yr heddlu: "Ni ddylai neb fynd yn agos ato."

Mae Grady'n 5 troedfedd 11 fodfedd o daldra a chanddo wallt brown golau a llygaid glas.

O dan ei lygad chwith mae craith.