Bwrdd iechyd yn targedu ysmygwyr
- Cyhoeddwyd

Bydd swyddogion cyngor yn targedu cleifion sy'n taflu stympiau sigarets a sbwriel arall ar dir ysbyty mwyaf Cymru.
Gallai troseddwyr gael eu dirwyo £75 yn y fan a'r lle, ac fe fyddan nhw hefyd yn derbyn gwybodaeth gwrth-ysmygu.
Dywed Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro mai camau gweithredu yw'r rhan nesaf o'i bolisi i redeg safleoedd di-fwg.
Bydd swyddogion ar batrol yn Ysbyty'r Brifysgol a Llandochau o ddydd Llun.
Dywedodd Dr Sharon Hopkins, cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus y bwrdd, ei bod wedi arwyddo cytundeb fydd yn caniatau i swyddogion gorfodaeth cynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg i weithio ar y safloeoedd.
Newid diwylliant
Mae gwaharddiad ysmygu ar safleoedd y bwrdd iechyd wedi bod mewn grym ers dwy flynedd, medd Dr Hopkins, ac roedd cyflogi swyddogion i weithredu'r gwaharddiad yn erbyn ysmygwyr a'r rhai sy'n taflu sbwriel yn gam pwysig.
"Mae ymwelwyr yn cael ysmygu mewn llochesi mewn ardaloedd sydd wedi eu dynodi. Mae llawer wedi dweud ei bod yn anodd plismona hyn, a dyna'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud.
"Rydym am i bobl feddwl am yr hyn y maen nhw'n ei wneud pan maen nhw'n taflu stympiau sigaret."
Ychwanegodd Dr Hopkins fod y gweithredu yma hefyd yn ceisio newid diwylliant ymysg y cannoedd o filoedd o gleifion sy'n ymweld ag ysbytai Caerdydd a Llandochau bob blwyddyn.
Clirio costus
Roedd yn amcangyfrif bod 22-23% o gleifion mewn ysbytai yn ysmygwyr, ac roedd hynny'n cyfrannu at eu salwch.
Dywedodd: "Am wn i, rydym yn dweud wrth y cleifion 'Dydyn ni ddim am i chi ysmygu, dydyn ni ddim am i chi daflu stympiau, ac os fyddwch yn gwneud hynny, yna fe allwch chi gael dirwy'."
Ar hyn o bryd mae'r bwrdd yn gwario tua £15,000 bob blwyddyn yn clirio stympiau a sbwriel ar eu safleoedd, medd Dr Hopkins.
Dywedodd y byddai llwyddiant y gweithredu gorfodaeth yn cael ei adolygu'n gyson.
Mae'r bwrdd hefyd yn trafod gyda'r cynghorau ynglŷn â'r posibilrwydd o ddefnyddio'r arian ddaw o'r dirwyon ar gyfer mwy o wasanaethau gwrth-ysmygu.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2012