Arsenal 1-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae Abertawe allan o Gwpan FA Lloegr wedi iddyn nhw golli'r gêm ail chwarae yn erbyn Arsenal yn Stadiwm Emirates o 1-0.
Doedd dim gwadu ymdrech y tîm a ddewisodd Michael Laudrup, ond fe ddewisodd adael ei brif sgoriwr, Michu, a Pablo Hernandez ar y fainc tan y chwarter awr olaf.
Y tîm cartref gafodd mwyafrif y meddiant, ac fe lwyddon nhw i daro dros 25 ergyd at y gôl yn ystod y gêm.
Er hynny roedd amddiffyn yr Elyrch yn gadarn tan bedwar munud cyn diwedd y gêm - bryd hynny fe ddaeth Olivier Giroud o hyd i Jack Wilshere ar ymyl y cwrt ac fe aeth ei ergyd i gornel isa'r rhwyd.
Fel y dangosodd y gêm wreiddiol rhwng y ddau, doedd hynny ddim yn rhy hwyr i Abertawe, ond y tro hwn doedd dim dihangfa i Abertawe.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol