Helpu dianc: Rhyddhau dyn yn ddi-gyhuddiad
- Cyhoeddwyd

Mae dyn a gafodd ei arestio ar amheuaeth o helpu llofrudd i ddianc o garchar wedi ei ryddhau yn ddigyhuddiad.
Mae menyw 34 oed o Fryste a gafodd ei harestio ar amheuaeth o helpu Brian Grady ddianc o garchar agored Prescoed ger Brynbuga yn Sir Fynwy yn dal i gael ei holi.
Mae'r Heddlu yn dal i chwilio am Grady, 26 oed, a gafodd ei garcharu am lofruddio a lladrata.
Mae 'na rybudd y gallai fod yn beryglus.
Craith
Dihangodd Brian Grady (ei enw arall yw Brian Revill) ddydd Llun.
Cafodd Grady, o Fryste, isafswm o 11 mlynedd o garchar yn 2003 am lofruddio Liam Attwell.
Roedd Mr Attwell wedi ei drywanu pan heriodd griw o bobl ifanc oedd yn ceisio dwyn ffôn symudol.
Dywedodd yr heddlu: "Ni ddylai neb fynd yn agos ato."
Mae Grady'n 5 troedfedd 11 fodfedd o daldra a chanddo wallt brown golau a llygaid glas.
O dan ei lygad chwith mae craith.
Straeon perthnasol
- 16 Ionawr 2013