Marwolaeth 'ddim yn amheus'
- Published
image copyrightCarl Jones
Mae Heddlu Gwent wedi dweud nad ydyn nhw'n trin marwolaeth dyn yng Nghaerffili fel un amheus.
Cafodd corff y dyn ei ddarganfod yng Nghaerffili ddydd Mercher.
Roedd yr heddlu wedi cau ardal ger Mornington Meadows lle cafodd y corff ei ddarganfod.
Cafodd yr heddlu eu galw am tua 4:42pm wedi i'r corff gael ei ddarganfod yn Nôl yr Eos.
Aeth plismyn a pharafeddygon i'r safle ond roedd y dyn wedi marw. Credir ei fod yn ei 50au.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.