Brian Flynn i reoli Doncaster Rovers
- Published
image copyrightEmpics
Brian Flynn yw rheolwr newydd Doncaster Rovers.
Cafodd cyn-reolwr Wrecsam a Chymru dan 21 oed ei benodi i ofalu am y tîm tan ddiwedd y tymor ddydd Iau.
Flynn a'r capten Rob Jones, 33 oed, oedd wrth y llyw dros dro ar ôl i Dean Saunders adael Wolverhampton Wanderers.
Bydd Flynn yn dal i gael cefnogaeth Jones sy'n chwaraewr-hyfforddwr gyda'r clwb o'r Adran Gyntaf.
Cafodd Flynn, 57 oed, ddau gyfnod gyda Rovers fel chwaraewr.
Dydi o ddim wedi rheoli tîm ers gadael Abertawe yn 2004.
Yn gynharach dywedodd Flynn ei fod wedi "mwynhau'r bythefnos ddiwethaf".
"Mae 'na dîm da a hyderus yma sydd eisiau ennill pob gêm."
Mae Rovers yn ail yn yr adran a phedwar pwynt ar y blaen i Brentford sy'n drydydd.
Fe fyddan nhw'n wynebu Leyton Orient ddydd Sadwrn.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol