Cais swyddogol gan Sunderland am Danny Graham

  • Cyhoeddwyd
Danny GrahamFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Danny Graham wedi bod yn eilydd am y rhan fwya o'r tymor

Mae BBC Cymru wedi cael ar ddeall bod Clwb Pêl-Droed Sunderland wedi gwneud cais swyddogol i Abertawe am Danny Graham.

Mae dyfodol y chwaraewr 27 oed wedi bod yn destun amheuaeth yn ystod y cyfnod trosglwyddo mis yma.

Roedd gôl hwyr Graham i'r Elyrch ar Ionawr 6 yn golygu gêm ail-chwarae i'r clwb yn erbyn Arsenal. Colli wnaeth Abertawe nos Fercher yn yr ail chwarae o 1-0.

Graham sgoriodd ail gôl Abertawe yn eu buddugoliaeth o 2-0 yn erbyn Chelsea yn Stamford Bridge yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol Cwpan Capital One.

Wedi bod ar y fainc am ran fwyaf o'r tymor mae Graham wedi sgorio mewn pedair gêm o'r bron i'r Elyrch.

Mae o wedi cyfadde' ei fod yn rhwystredig gyda'r ffaith nad yw'n cael cychwyn nifer o gemau ar ôl bod yn un o'r chwaraewyr cyson o dan y cyn-reolwr Brendan Rodgers gan sgorio 14 gôl mewn 39 gêm.

Yn y cyfamser mae Abertawe wedi prynu'r ymosodwr Roland Lamah ar fenthyg o Osasuna yn Sbaen ac mae disgwyl i Sunderland ryddhau Saha.

Mae 'na adroddiadau b od Abertawe â diddordeb yn Kenwyne Jones o Stoke.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol