Eira yn achosi trafferthion
- Cyhoeddwyd
Mae eira wedi disgyn dros sawl ardal yng Nghymru, y tywydd wedi achosi trafferthion ar y ffyrdd a nifer o ysgolion, colegau a phrifysgolion ynghau.
Roedd 1338 o ysgolion ynghau ac mae rhybudd coch y Swyddfa Dywydd ar gyfer y Cymoedd a De Powys yn parhau tan 9pm.
Ni ddylai neb deithio heblaw bod hynny'n angenrheidiol.
Mae yna rybudd oren ar gyfer gweddill Cymru - allai olygu rhwng 5 a 15cm (2-6 modfedd) o eira ar dir isel.
Ailagorodd Maes Awyr Caerdydd ar ôl bod ynghau am oriau.
Dywedodd cwmni Western Power fod 5,000 o'u cwsmeriaid heb drydan, y rhan fwyaf ohonyn nhw yn Sir Benfro.
Y gred yw bod cannoedd o dai yn y gogledd heb drydan.
Dywedodd Scottish Power fod problemau yng Ngwynedd, yn enwedig ym Mhen Llŷn, a bod oedi am fod damwain ar yr A499.
Ffyrdd a rheilffyrdd
Roedd yr M4 ynghau i'r ddau gyfeiriad ger Pen-y-bont ar Ogwr ond cafodd yr eira ei glirio ac mae'r draffordd wedi ailagor rhwng cyffyrdd 36 a 37.
Brynhawn Gwener roedd nifer o rybuddion ffyrdd:-
- Amodau gyrru anodd iawn ar hyd yr M4 rhwng Cyffordd 49 (Pont Abraham) a Chyffordd 22 (M49) ac felly angen gofal mawr;
- M48 Sir Fynwy - amodau gyrru anodd iawn rhwng Cyffordd 2 (Ffordd Gyswllt Dyffryn Gwy) a Chyffordd 23;
- M48 Pont Hafren - yr holl draffig yn cael ei ddargyfeirio oddi ar y draffordd - a threfniadau i gau'r bont yn gyflym os bydd rhaid;
- A48 Sir Gaerfyrddin - amodau anodd rhwng yr M4 (Pont Abraham) a'r A476 (Heol Llandeilo);
- A48 (M) Casnewydd - amodau gyrru anodd iawn rhwng Cyffordd 29 o'r M4 a Chyffordd 29A (Llaneirwg);
- Ffordd yr A470 ynghau rhwng cylchfan Cefn Coed ac Aberhonddu;
- Yr A470 ynghau i gyfeiriad y gogledd rhwng cylchfan Abercynon a Phentrebach;
- Yr A487 rhwng Bryncir a Nebo ynghau i'r ddau gyfeiriad.
Nos Wener:-
- Roedd traffig ar yr A55 yn symud yn araf ar Ynys Môn tua'r gogledd rhwng Gaerwen a Llangefni;
- Roedd angen i yrwyr fod yn "ofalus iawn' ar yr A55 yng Ngwynedd a Chonwy ac nid oedd modd mynd ar hyd un lôn ger Dwygyfylchi;
- Yng Ngwynedd cafodd yr A470 ei hailagor rhwng Dolgellau a Cross Foxes;
- Roedd yr A4212 ynghau rhwng Trawsfynydd ac Arenig;
- Cafodd yr A487 ei hailagor rhwng Nebo a Phantglas ar ôl i lori wyro ar draws y ffordd;
- Yn Sir Ddinbych roedd Bwlch yr Oernant ynghau rhwng Llangollen a Llandegla;
- Ym Mhowys roedd yr A487 ynghau ar ôl damwain rhwng Machynlleth a Glandyfi yn ardal Derwenlas;
- Yr A481 ynghau rhwng Llanelwedd a Llanfihangel Nant Melan;
- Roedd yr A4215 ynghau rhwng Libanus a Defynnog;
- Yr A44 ynghau yn ardal Crossgates;
- Ffordd fynyddig Penderyn ynghau rhwng Nant-ddu a Ffordd y Rhigos;
- M48 Pont Hafren ynghau i'r ddau gyfeiriad;
- Yr A4075 yng Nghaeriw, Sir Benfro, ynghau.
Roedd cwmni trenau First Great Western wedi rhybuddio y gallai'r eira amharu ar y gwasanaeth yn ardal Caerdydd/Bryste fore Gwener.
Dywedodd Arriva Trenau Cymru fod yna oedi ar eu gwasanaethau mewn sawl ardal a phroblemau yn Ystrad Mynach, Caerffili, Abercynon, Caerdydd a Thondu. Dylai teithwyr gysylltu â nhw am ragor o wybodaeth.
Mae cwmniau bws Traveline ym Mhowys a Stagecoach yn ne a gorllewin Cymru wedi canslo eu holl wasanaethau.
Mae nifer o wasanaethau bws First Cymru yn y gorllewin, Newport Bus yng Nghasnewydd a GHA coaches yn y gogledd wedi eu canslo hefyd.
Mae rhai nwyddau'n brin mewn rhai archfarchnadoedd wedi i bobl ymateb i'r rhybuddion trwy brynu bwyd.
Gwasanaeth iechyd
Galwodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar bobl i ddefnyddio'r gwasanaeth "yn synhwyrol" a dim ond "mewn gwir angen".
"Mae cerbydau sy'n gwasanaethu ardaloedd gwledig wedi cael olwynion pwrpasol ar gyfer y gaeaf fel rhan o'n cynlluniau," eglurodd Gordon Roberts o'r gwasanaeth.
"Mae 'na gynlluniau mewn grym i gydweithio gydag asiantaethau eraill, fel y timau achub mynydd a'r llu awyr i ddarparu gofal diogel ac effeithiol i'r cleifion."
Mae gwirfoddolwyr St John Cymru Wales wedi helpu'r Gwasanaeth Ambiwlans Cenedlaethol, gyda chriwiau a cherbydau 4x4 ar waith ers 6am.
Cafodd holl apwyntiadau cleifion allanol Byrddau Iechyd Bro Taf, Caerdydd a'r Fro, Abertawe Bro Morgannwg a Chwm Taf eu canslo, heblaw am apwyntiadau brys gan gynnwys rhai yn y gwasanaethau arennol, pediatrig ac oncoleg.
Llywodraeth leol
Mae cynghorau Ceredigion, Castell-nedd Port Talbot, Powys, Abertawe a Thorfaen wedi atal eu gwasanaethau casglu sbwriel am un diwrnod.
Roedd y DVLA yn Nhreforys ynghau yn ogystal â llysoedd y goron Caerdydd a Chasnewydd.
Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant, y dylai pobl gymryd gofal ychwanegol yn y tywydd oer.
"Fe fydd Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio 24 awr y dydd i gyd-lynu gwasanaethau i sicrhau bod ffyrdd yn cael eu glanhau a'u graeanu.
"Er bod 'na ddigon o stoc o halen, fe fyddwn i'n cynghori'r cyhoedd i dalu sylw i'r manylion tywydd diweddara ac i deithio dim ond mewn gwir angen.
"Hoffwn annog pobl i wneud yn siwr bod teulu a chymdogion yn iawn ac i gynnig help iddyn nhw."
Dywedodd cynghorau Cymru fod ganddyn nhw dros 200,000 tunnell o raean.
Dim ond 137,000 tunnell oedd ar gael dros yr un cyfnod yn 2010 pan oedd cyfnod estynedig o dywydd rhewllyd iawn.
Straeon perthnasol
- 17 Ionawr 2013
- 17 Ionawr 2013
- 16 Ionawr 2013
- 15 Ionawr 2013
- 9 Ionawr 2010