Effaith yr eira ar chwaraeon
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o dimau chwaraeon Cymru yn aros i weld os fydd yr eira yn cael effaith ar gemau'r penwythnos mewn sawl camp.
Eisoes cyhoeddwyd na fydd rasio ceffylau yn digwydd yng Nghas-gwent ddydd Gwener.
Pryder nifer o dimau yw na fyddan nhw'n medru cyrraedd gemau yn hytrach na bod dim modd chwarae ar y caeau.
Mae nifer o gemau pêl-droed yn Lloegr eisoes wedi cael eu gohirio.
Pêl-droed
Mae Wrecsam i fod i deithio i wynebu Lincoln City yn Stadiwm Sincil Bank yn Uwchgynghrair Blue Square Bet ddydd Sadwrn, ond mae'r clwb o Gymru wedi gofyn am gael archwiliad o'r cae amser cinio ddydd Gwener er mwyn arbed teithio yno yn ofer.
Y disgwyl yw y bydd y gêm yn cael ei gohirio.
Yn yr un adran, mae Casnewydd i fod i groesawu Barrow i Rodney Parade brynhawn Sadwrn, ac mae disgwyl archwiliad o'r cae yno brynhawn Gwener. Mae'r gobeithion yn uchel yno gan fod y clwb wedi gorchuddio'r cae dros nos.
Yn Uwchgynghrair Lloegr, fe fydd Abertawe yn croesawu Stoke City i Stadiwm Liberty.
Oherwydd natur y cae, mae'n debyg y bydd modd chwarae arno, ond fe allai'r awdurdodau ystyried yr amodau o gwmpas y stadiwm cyn penderfynu cynnal y gêm ai peidio.
Yn y Bencampwriaeth, mae Caerdydd i fod i deithio i wynebu Blackpool yn y gêm hwyr.
Roedd y tîm wedi bwriadu hedfan i Blackpool, ond bu Maes Awyr Caerdydd ar gau oherwydd yr eira er fod y llain bellach wedi ailagor.
Er bod y maes awyr ar agor erbyn hyn mae disgwyl cyhoeddiad gan y ddau glwb yn ystod y dydd.
Mae'n benwythnos pwysig yn Uwchgynghrair Cymru gan mai dyma benwythnos olaf hanner cyntaf y tymor pan fydd y gynghrair yn rhannu'n ddwy.
Fe fydd yr holl gaeau yn cael eu harchwilio fore Sadwrn.
Rygbi
Bydd y ddwy gêm fwyaf yng Nghymru ddydd Sadwrn wrth i'r Gleision groesawu Sale i'r brifddinas, a Clermont Auvergne yn teithio i Barc y Scarlets.
Mae'r Gleision wedi bod yn trydaru gwirfoddolwyr er mwyn ceisio clirio cae Parc yr Arfau er mwyn i'r gêm fynd yn ei blaen.
Mae tîm Clermont Auvergne i fod i lanio ym Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddarach ddydd Gwener gan fod y llain lanio yno bellach wedi ailagor.
Mae rhaglen lawn o gemau Cwpan Prydain ac Iwerddon yn y dyddiadur hefyd, ond yr unig un i gael ei gohirio hyd yma yw'r un rhwng Pontypridd a Jersey.
Yn ôl y rhagolygon gan y Swyddfa Dywydd, fe fydd yr eira yn clirio i'r dwyrain yn ystod dydd Sadwrn.
Mae'n debyg felly y bydd nifer o gaeau yn aros tan fore Sadwrn cyn gwneud penderfyniad terfynol am gynnal gemau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd17 Ionawr 2013