Carchar i ddyn o Cheltenham am yrru i gopa'r Wyddfa
- Published
Mae dyn 40 oed wedi cael ei garcharu am yrru ei gerbyd i fyny'r Wyddfa.
Yn Llys y Goron Caernarfon cafwyd Craig Williams o Cheltenham yn euog o ddau gyhuddiad o yrru'n beryglus.
Mae wedi ei garcharu am 22 mis, ei wahardd rhag gyrru am dair blynedd a bydd rhaid iddo gwblhau prawf gyrru dwys cyn cael gyrru eto.
Mae'r ddedfryd yn cynnwys chwe mis o garchar am nad oedd yn bresennol ar ddechrau'r achos ddydd Mercher.
Clywodd y llys ei fod wedi gyrru cerbyd gyriant pedair olwyn Vauxhall Frontera i gopa'r Wyddfa ddwywaith.
Dywedodd y diffynnydd "nad oedd mor anodd â hynny," nad oedd neb ar y mynydd a'i fod yn llai serth na rhai ffyrdd cyhoeddus.
'Jôc'
Roedd wedi gwadu'r cyhuddiadau o yrru i'r copa ar Fedi 3 ac wedi honni bod rhywun arall wedi gyrru'r cerbyd i'r copa yr ail dro, ar Fedi 29, ar ôl mynd â'r cerbyd o du allan i lety yn Llanberis.
"Roeddwn i'n meddwl bod rhywun wedi ei symud fel jôc," meddai.
"Fe weles i nodyn yn y llety oedd yn dweud: 'Fe wnes i dy guro di - gwell hwyl tro nesa.'"
Dywedodd yr erlynydd Matthew Curtis wrth y llys fod y diffynnydd wedi anfon e-bost i'w gyfreithiwr oedd yn cynnwys llythyr i'r Barnwr Mr Ustus Merfyn Hughes QC.
"Roedd y llythyr yn awgrymu y byddai'r diffynnydd yn mynd i fod ar gopa'r Wyddfa pan fyddai'r ddedfryd yn cael ei chyhoeddi," meddai'r erlynydd wrth y barnwr.
"Roedd 'na neges hunanladdiad ar ffurf cerdd hir."
Dywedodd Mr Curtis fod y gwasanaethau achub, gan gynnwys hofrennydd yr heddlu ar gost o £1,767 bob 50 munud, wedi dechrau chwilio amdano.
Daethpwyd o hyd iddo'n cysgu mewn cerbyd yn Eryri.
Clywodd y llys fod costau gwaith cynnal a chadw'r rheilffordd a symud y cerbyd o'r copa yn filoedd o bunnoedd.
Cafodd ei garcharu am chwe mis oherwydd y drosedd gyntaf o yrru'n beryglus ar Fedi 3 2011 ac am 10 mis oherwydd am yr ail drosedd.
'Yn ddifrifol'
Am nad oedd wedi ateb mechnïaeth cafodd ei garcharu am chwe mis.
Dywedodd y barnwr fod y perygl a greodd ar y ddau achlysur yn "amlwg ac yn ddifrifol".
"Yn ffodus, chafodd neb ei anafu, dim diolch i chi ... roedd hon yn weithred fwriadol ar y ddau achlysur ...
"Fe wnaethoch chi hyn er eich budd hunanol eich hun ac fe wnaethoch anwybyddu diogelwch eraill.
"Mae wedi costio miloedd o bunnoedd o arian y cyhoedd i glirio'r llanast."
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Ionawr 2013
- Published
- 16 Ionawr 2013