Caffi: 11 yn colli eu gwaith ym Machynlleth

  • Cyhoeddwyd
Y Ganolfan Dechnoleg Amgen
Disgrifiad o’r llun,
Y Ganolfan Dechnoleg Amgen oedd yn rhedeg siop a chaffi'r Chwarel

Mae siop a chaffi ym Machynlleth wedi cau gyda 11 o bobl yn colli eu swyddi.

Y Ganolfan Dechnoleg Amgen oedd yn rhedeg siop a chaffi'r Chwarel ers iddyn nhw agor ym 1979.

Cafodd y staff eu hysbysu bod y siop a'r caffi ar Stryd Maengwyn yn cau'n syth pan ddaethon nhw i'r gwaith fore Gwener.

Dywedodd llefarydd ar ran y ganolfan nad oedd y busnesau'n "gynaliadwy'n economaidd".

Y Ganolfan Dechnoleg Amgen plc yw rhan fasnachol elusen y Ganolfan Dechnoleg Amgen sy'n canolbwyntio ar gyfleu gwybodaeth am dulliau'r dechnoleg amgen.

Dywedodd llefarydd na fyddai cau'r busnesau'n effeithio ar y gwaith elusennol.