Rhybuddion rhew wedi'r eira mawr

  • Cyhoeddwyd
Sawl gyrrwr wedi wynebu trafferthionFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,
Sawl gyrrwr wedi wynebu trafferthion

Mae gyrwyr wedi cael rhybudd am ffyrdd rhewllyd yn dilyn yr eira ddisgynnodd ar draws Cymru ddydd Gwener.

Mae peiriannau graeanu wedi bod allan dros nos er mwyn cadw'r prif lonydd yn glir, ond mae llawer o ffyrdd llai yn parhau heb eu trin.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybuddion melyn oherwydd rhew ar y ffyrdd yn y rhan fwyaf o Gymru, ond mae'r rhybudd coch dros rhan o dde a chanolbarth Cymru wedi dod i ben.

Dywedodd cwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus eu bod yn gobeithio darparu gwasanaeth sy'n agos at normal ddydd Sadwrn.

Daeth y trydan yn ôl i'r olaf o 10,000 o dai a gollodd eu cyflenwad, ond mae trafferthion yn parhau ar rai priffyrdd gydag ambell un ar gau yn llwyr o hyd.

Mae'r M48, Pont Hafren, ar gau i'r ddau gyfeiriad oherwydd yr eira, ac mae un lon ar gau i'r ddau gyfeiriad ar y bont arall, yr M4.

Mae'r ffyrdd dros fylchau Penderyn, Maerdy a Rhigos yn dal wedi eu cau ers nos Wener, ac ymhlith y ffyrdd eraill sydd wedi cau mae:-

  • A4075 Caeriw, Sir Benfro (oherwydd llifogydd);
  • A4212 Trawsfynydd, Gwynedd;
  • A4215 yn Libanus (Powys);
  • A487 Derwenlas (Powys);
  • A481 yn Llanelwedd (Powys);
  • A44 yn Crossgates (Powys);
  • A542 Bwlch yr Oernant yn Llangollen, Sir Ddinbych.

Rhybuddion

Dywed cwmnïau First Great Western a Threnau Arriva Cymru bod eu gwasanaethau fel arfer, ac mae'r un peth yn wir am Faes Awyr Caerdydd a gwasanaethau llongau fferi o Sir Benfro a Chaergybi.

Daeth y rhybudd coch am eira yng nghymoedd y de a Bannau Brycheiniog i ben, ac mae'r gwaethaf drosodd am y tro.

Ond mae rhybuddion melyn mewn grym ar draws rhannau helaeth o Gymru dros y penwythnos.

Dywedodd cyflwynydd tywydd BBC Cymru, Owain Wyn Evans, y gallai rhew barhau ar y ffyrdd a phalmentydd ar rai dyddiau wrth i'r tymheredd aros yn isel.

"Fe fydd dydd Sadwrn yn sych ar y cyfan ar draws Cymru," meddai, "ond mae risg o fwy o eira ym Mhowys a rhannau o'r gogledd erbyn y prynhawn.

"Mae'n debyg iawn o rewi eto heno, ac mae yfory (Sul) yn edrych yn ddigon tebyg i heddiw - oer gydag ambell gawod eira."

Hefyd gan y BBC

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol