Pêl-droediwr yn rhoi bwyd i'r digartref

  • Cyhoeddwyd
Angel RangelFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd y chwaraewr ei alw'n 'Rangel yr Angel' am ei weithred hael

Bu seren tîm pêl-droed Abertawe, Angel Rangel, a'i wraig Nikki ar strydoedd y ddinas dros nos Wener yn dosbarthu bwyd i'r digartref.

Dywedodd y ddau fod ganddynt fwyd dros ben, felly fe aeth y ddau yn eu car o gwmpas Abertawe yn chwilio am bobl oedd angen cymorth.

Roedd yr ymateb i'r weithred ar wefan Twitter yn ysgubol, gyda llawer yn ei enwi fel 'Rangel yr Angel'.

Dechreuodd y chwaraewr drwy ofyn ar Twitter: "Oes unrhyw un yn gwybod os oes yna bobl ddigartref yn Abertawe? Mae gen i fwyd dros ben."

Dywedodd Rangel mai syniad ei wraig Nikki oedd y cyfan, ac roedd y ddau wrth eu bodd gyda'r ymateb.

Dywedodd Nikki: "Diolch yn fawr iawn am eich trydar - doeddwn i nag Angel yn disgwyl hynny o gwbl.

"Doedden ni ddim am weld y bwyd yn mynd yn wastraff pan y gallai fynd i bobl sydd ei angen."