Effaith yr eira ar chwaraeon

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm Liberty
Disgrifiad o’r llun,
Mae Abertawe'n dal i obeithion croesawu Stoke City i Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn

Mae nifer o dimau chwaraeon Cymru yn aros i weld os fydd yr eira yn cael effaith ar gemau'r penwythnos mewn sawl camp.

Pryder nifer o dimau yw na fyddan nhw'n medru cyrraedd gemau yn hytrach na bod dim modd chwarae ar y caeau.

Mae nifer o gemau pêl-droed yn Lloegr eisoes wedi cael eu gohirio.

Pêl-droed

Roedd Wrecsam i fod i deithio i wynebu Lincoln City yn Stadiwm Sincil Bank yn Uwchgynghrair Blue Square Bet ddydd Sadwrn, ond fe gafodd y gêm ei gohirio yn dilyn archwiliad o'r cae ddydd Gwener.

Yn yr un adran, mae Casnewydd yn croesawu Barrow i Rodney Parade brynhawn Sadwrn, ac yn dilyn archwiliad cynnar o'r cae yno daeth cadarnhad y bydd y gêm yn cael ei chwarae.

Yn Uwchgynghrair Lloegr, fe fydd Abertawe yn croesawu Stoke City i Stadiwm Liberty. Oherwydd natur y cae, mae modd chwarae arno.

Yn y Bencampwriaeth, mae Caerdydd i fod i deithio i wynebu Blackpool yn y gêm hwyr.

Mae'n benwythnos pwysig yn Uwchgynghrair Cymru gan mai dyma benwythnos olaf hanner cyntaf y tymor pan fydd y gynghrair yn rhannu'n ddwy.

Ond yn dilyn archwiliadau o'r caeau fore Sadwrn, a thrafferthion rhai o'r timau i deithio, mae nifer o gemau wedi cael eu gohirio, gan gynnwys Bangor v. Port Talbot, Caerfyrddin v.Y Drenewydd, Y Bala v. Cei Connah a'r Seintiau Newydd v.Aberystwyth.

Mae'r gêm ym mhedwaredd rownd Cwpan Cymru rhwng Tre'r Fflint a Chaerau/Trelái hefyd wedi'i gohirio.

Rygbi

Bydd y ddwy gêm fwyaf yng Nghymru ddydd Sadwrn wrth i'r Gleision groesawu Sale i'r brifddinas, a Clermont Auvergne yn teithio i Barc y Scarlets.

Mae'r Gleision wedi bod yn trydaru gwirfoddolwyr er mwyn ceisio clirio cae Parc yr Arfau er mwyn i'r gêm fynd yn ei blaen.

Mae tîm Clermont Auvergne i fod i lanio ym Maes Awyr Caerdydd yn ddiweddarach ddydd Gwener gan fod y llain lanio yno bellach wedi ailagor.

Mae rhaglen lawn o gemau Cwpan Prydain ac Iwerddon yn y dyddiadur hefyd, ond mae llawer wedi eu gohirio :-

Bedford Blues v. Bedwas; Pen-y-bont ar Ogwr v Ulster Ravens; Cross Keys v Newcastle; Nottingham v Llanymddyfri; Pontypridd v Jersey; Rotherham v Aberafan.