Casnewydd 0-2 Barrow
- Cyhoeddwyd
Casnewydd 0-2 Barrow
Roedd arwyr lu i Gasnewydd cyn y gic gyntaf yn Rodney Parade ddydd Sadwrn.
Yn dilyn apêl ar wefan Twitter, fe ddaeth tomen o gefnogwyr at ei gilydd i ysgubo'r eira o'r cae er mwyn sicrhau y gallai'r gêm ddigwydd o gwbl ddydd Sadwrn.
Roedd y rheolwr Justin Edinburgh yn awyddus i fanteisio ar y cyfle i agor bwlch ar frig y tabl yn erbyn un o'r clybiau tua'r gwaelod, Barrow, gan fod nifer o gemau eraill y dydd - gan gynnwys gêm Wrecsam yn Lilcoln - wedi cael eu gohirio.
Ond yr ymwelwyr oedd yn dathlu erbyn y diwedd.
Aeth Barrow ar y blaen yn agos at ddiwedd yr hanner cyntaf. Matt Flynn gafodd y dasg hawdd o sgorio o bas Adam Boyes.
Er iddyn nhw gael fwy o feddiant ac o ergydion at y gôl, doedd Casnewydd ddim yn taro deuddeg, ac ar ôl 61 munud, fe ddyblwyd y fantais i'r ymwelwyr.
Y tro hwn roedd hi'n chwip o ergyd gan Danny Rowe i gornel ucha'r rhwyd o ymyl y cwrt cosbi.
Fe fydd colli gartref eto yn sicr yn siom i Justin Edinburgh, a'r unig gysur i Gasnewydd yw bod Forest Green - yr unig dîm arall yn y pump uchaf oedd yn chwarae ddydd Sadwrn - hefyd wedi colli yn Stockport.
Straeon perthnasol
- 27 Hydref 2012
- 13 Hydref 2012
- 9 Hydref 2012