Prestatyn yn baglu yn erbyn Brychdyn
- Cyhoeddwyd

Mae Prestatyn yn drydydd yn Uwchgynghrair Cymru wedi iddyn nhw golli yn erbyn Airbus UK Brychdyn ddydd Sadwrn.
Prestatyn 1-6 Airbus UK Brychdyn
Byddai buddugoliaeth wedi sicrhau bod Prestatyn yn gorffen yn yr ail safle ar ddiwedd hanner cynta'r tymor yng Nghymru cyn i'r gynghrair rhannu'n ddwy.
Roedd disgwyl iddyn nhw wneud hynny ar eu tomen eu hunain yn erbyn Airbus UK Brychdyn, ond roedd sioc yn eu disgwyl.
Ryan Wade roddodd yr ymwelwyr ar y blaen wedi 10 munud, ond fe darodd Prestatyn yn ôl yn syth drwy Mike Parker.
Ond wedi hynny roedd rheolaeth Airbus o'r gêm yn ysgubol.
Glenn Rule a'i gwnaeth hi'n 2-1 cyn yr egwyl, ac fe ychwanegodd Chris Budrys ddwy i'w gwneud hi'n bedair wedi 71 munud.
Roedd gwaeth i ddod wrth i Phil Bolland gael y bumed i'r ymwelwyr, ac yna daeth chweched gan Wayne Riley gyda saith munud yn weddill.
Mae'r fuddugoliaeth yn golygu maiAirbus sy'n codi i'r ail safle uwchben Prestatyn ar wahaniaeth goliau, gyda Bangor yn disgwyl i'r pedwerydd safle.
Lido Afan 0-1 Llanelli
Yn y frwydr tua gwaelod y tabl, Llanelli ddaeth i'r brig yn erbyn Lido Afan.
Mae'r tîm cartref yn gwybod ers tro mai nhw fydd ar waelod y tabl hanner fford drwy'r tymor, ac roedd hi'n gêm bwysicach i Lanelli.
Roedd un gôl yn ddigon i'w setlo hi, a Luke Bowen a'i cafodd hi chwe munud i fewn i'r ail hanner.
Mae'r fuddugoliaeth yn sicrhau bod Llanelli yn codi o'r ddau safle gwaelod. Aberystwyth sy'n cymryd eu lle nhw yno - mae ganddyn nhw gêm wrth gefn, ond mae honno oddi cartref yn erbyn y Seintiau Newydd.