Blackpool 1-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Logo Clwb Pêl-Droed CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Blackpool 1-2 Caerdydd

Gyda mantais o saith pwynt ar frig tabl y Bencampwriaeth ar ddechrau'r gêm, roedd Caerdydd yn gobeithio cryfhau eu safle wrth deithio i Blackpool.

Roedd staff y tîm cartref wedi gwneud gwaith caled i sicrhau fod y gêm yn digwydd o gwbl wedi'r holl eira yn yr ardal ddydd Gwener, ond roedd wyneb y cae yn anodd i'r ddau dîm, ac roedd yr hanner cyntaf yn ddifflach a siomedig.

Er mai Blackpool gafodd mwyafrif y meddiant, roedd hi'n gwbl gyfartal o ran yr ystadegau ergydion at y gôl a chiciau cornel.

Roedd mwy o bwrpas i chwarae Caerdydd yn yr ail gyfnod ac fe dalodd hynny ar ei ganfed wedi 54 munud.

Kim Bo-Kyung rwydodd o groesiad Aron Gunnarsson.

Ymateb

Ond fe sbardunodd hynny ymateb gan y tîm cartref, ac ar yr awr fe unionwyd y sgôr.

Tiago Gomes groesodd i'r cwrt i Blackpool, a gan fod Mark Hudson wedi gadael y maes gydag anaf roedd yna ansicrwydd yn amddiffyn Caerdydd.

Manteisiodd Gary Taylor-Fletcher ar hynny i benio i'r rhwyd i'w gwneud hi'n gyfartal.

Daeth cyfle gwych i Gaerdydd fynd yn ôl ar y blaen yn syth, ond methodd Joe Mason gyda pheniad o bum llath.

Doedd y cyfle ddaeth i Tommy Smith funud yn ddiweddarach ddim hanner cystal, ond am ergyd!

Peniwyd y bêl i Smith rhyw 25 llath o'r gôl, ac fe darodd y bêl ar y foli am gôl ardderchog i roi Caerdydd yn ôl ar y blaen.

Fe ddaliodd Caerdydd eu gafael ar y fantais tan y chwib olaf gan agor bwlch o ddeg pwynt ar frig y tabl bellach.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol