Buddugoliaeth wych i Donaldson
- Cyhoeddwyd
Mae'r Cymro Jamie Donaldson wedi cipio buddugoliaeth fwyaf ei yrfa drwy ennill Pencampwriaeth Abu Dhabi ddydd Sul.
Cafodd Donaldson rownd o 68 yn ei rownd olaf ddydd Sul i orffen gyda chyfanswm o 274 - un ergyd yn well na'r Sais Justin Rose a Thorbjen Olesen o Ddenmarc.
Bydd y chwaraewr o Bontypridd yn derbyn siec am $336,726 am y fuddugoliaeth.
Daw ei lwyddiant yn dilyn ei dymor gorau erioed y llynedd.
Yn ystod 2012, llwyddodd Donaldson i ennill Pencampwriaeth Agored Iwerddon ar gwrs Portrush, ac yna gorffennodd yn gydradd seithfed ym Mhencampwriaeth PGA America - un o'r 'clasuron' ar gylchdaith y dynion ar draws y byd.
Ar ddechrau'r rownd olaf yn Abu Dhabi, roedd Donaldson ddwy ergyd y tu ôl i Rose, ond cafodd y Cymro bluen ar yr ail, y nawfed a'r 11eg twll wrth i'r Sais faglu.
Erbyn y twll olaf roedd gan y Cymro ddwy ergyd o fantais, ond method gyda chynnig o bum troedfedd i hanneru'r fantais.
Roedd hynny'n golygu fod gan Rose ac Olesen gyfle i orffen yn gyfartal gyda'r Cymro, ond methodd y ddau gyda'u cynigion gan roi'r fuddugoliaeth i Donaldson.
Pencampwriaeth Abu Dhabi - Sgôr Terfynol
1. Jamie Donaldson (Cymru) = -14 {274} - (67;70;69;68)
=2. Justin Rose (Lloegr) = -13 {275} - (67;69;68;71)
=2. Thorbjen Olesen (Denmarc) = -13 {275} - (68;69;69;69)
Cymry eraill :-
=32. Phillip Price (Cymru) = -3 {285} - (72;74;69;70)
Straeon perthnasol
- 13 Awst 2012