Rhybuddion teithio oherwydd oerfel
- Published
Cafodd gyrwyr rybudd am drafferthion wrth i'r tymheredd ddisgyn o dan y rhewbwynt unwaith eto yng Nghymru.
Mae disgwyl cawodydd eira, yn enwedig yn y gogledd ddydd Llun.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod risg o gawodydd eira rhwng 1-3cm - a hyd at 5cm - mewn mannau.
Roedd rhybudd melyn y dylai pawb "fod yn barod" oherwydd rhew ar y ffyrdd ddydd Llun a dydd Mawrth.
"Dylai'r cyhoedd fod yn barod am y risg o amharu ar deithio yn ystod y cyfnod estynedig o dywydd gaeafol," meddai llefarydd.
Eisoes mae tua 120 o ysgolion wedi cyhoeddi y byddan nhw'n cau ddydd Llun, gan gynnwys mwy na 30 yn Rhondda Cynon Taf.
Roedd nifer o ysgolion eraill wedi cau yn rhannol.
Cyhoeddodd rhai bod trefniadau arbennig yn cael eu gwneud ar gyfer disgyblion sy'n sefyll arholiadau.
Ffyrdd
Er bod mwyafrif y prif-ffyrdd wedi agor, mae rhai o'r ffyrdd mynyddig a ffyrdd llai yn dal wedi eu cau.
Yng nghymoedd y de mae'r ffyrdd dros Y Maerdy a'r Bwlch i gyd ynghau.
Yn y gogledd roedd yr A542, Bwlch yr Oernant yn Llangollen ynghau ac felly hefyd y B4329 rhwng Rosebush a Brynberian yng ngogledd Sir Benfro.
Roedd rhybudd am amodau anodd ar draffordd yr M4 a'r A55 rhwbg Llanelwy a Chaer.
Roedd Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi dweud eu bod yn gwneud pob ymdrech i ddarparu cludiant i ddisgyblion ysgol ond y dylai rhieni edrych ar wefan y cyngor.
Ysgolion uwchradd oedd yn cael y flaenoriaeth gan fod nifer o blant yn sefyll arholiadau.
Ddydd Sul cliriodd 50 o rieni a phlant iard Ysgol Gynradd Creigiau ger Caerdydd.
Dywedodd Cyngor Powys eu bod yn gobeithio y bydd y gwasanaeth casglu ysbwriel yn gweithio dydd Llun - bu'n rhaid atal y gwasanaeth dydd Gwener oherwydd yr eira.
Rhybuddio
Mae Tîm Achub Mynydd Bannau Brycheiniog wedi rhybuddio pobl i beidio â mentro i'r mynyddoedd heb offer priodol ar ôl i ddau gerddwr gael eu hachub.
Dywedodd Mark Jones, dirprwy arweinydd y tîm, na ddylai neb fentro heb fwyell rhew, cramponau na digon o ddillad addas.
Ddydd Sadwrn torrodd menyw 34 oed o Birmingham ei ffêr wrth o gopa Corn Du (2,8864 o droedfeddi) ym Mannau Brycheiniog.
Bu'n rhaid i dim o wyth ei chludo i lawr ar stretsier gan nad oedd modd defnyddio hofrennydd oherwydd cymylau isel.
Ddydd Sadwrn cafodd dyn 28 oed o Bontyclun ei achub ar ôl torri ei goes ar Gorn Du.
Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysybyty Tywysog Charles, Merthyr Tudful.
Straeon perthnasol
- Published
- 20 Ionawr 2013
- Published
- 20 Ionawr 2013
- Published
- 19 Ionawr 2013
- Published
- 18 Ionawr 2013
- Published
- 17 Ionawr 2013
- Published
- 16 Ionawr 2013
- Published
- 15 Ionawr 2013