Nifer y siopwyr yn gostwng yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Siopwyr yn LlundainFfynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,
Dywed y CMP fod y gostyngiad mwyaf yng Nghymru, lle bu 11.5% yn llai o bobl yn siopa o'i gymharu â Rhagfyr 2011

Gostyngodd nifer y siopwyr yng Nghymru yn fwy na'r un ardal arall yn y DU ym mis Rhagfyr, yn ôl Consortiwm Manwerthu Prydain (CMP).

Dywed eu hadroddiad diweddaraf fod nifer y siopwyr ym Mhrydain wedi gostwng 1.2% o'i gymharu â blwyddyn ynghynt.

Dywed y CMP fod y gostyngiad mwyaf yng Nghymru, lle bu 11.5% yn llai o bobl yn siopa o'i gymharu â Rhagfyr 2011.

Bu gostyngiad hefyd yn nifer y siopwyr yn Nwyrain Lloegr (7.1%), De Orllewin Lloegr (4.8%), Gogledd Lloegr (4.8%) a Dwyrain Canolbarth Lloegr (1.2%).

Gweinyddwyr

Ond bu cynnydd yn nifer y siopwyr yn yr Alban (6.2%), Llundain (3.1%) a Gogledd Iwerddon (0.6%).

Dywed y CMP fod y gostyngiad wedi digwydd er i 7.5% yn fwy o siopwyr brynu nwyddau yn yr wythnos cyn y Nadolig.

Daw'r ffigyrau hyn yn dilyn data swyddogol wnaeth ddatgan fod gwerthiant manwerthu wedi gostwng yn ystod yr un mis.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, bu gwerthiant ym mis Rhagfyr 0.1% yn llai na ym mis Tachwedd ac roedd gwerthiant dillad a bwyd yn enwedig wedi dioddef yn y cyfnod hwn.

Ers dechrau'r flwyddyn mae'r cwmnïau stryd fawr, HMV, Jessops a Blockbuster wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol