Bws ysgol yn cludo plant ysgol yn llithro oddi ar riw
- Cyhoeddwyd
![Bws yn Abercarn [Pic: South Wales Argus]](https://ichef.bbci.co.uk/news/304/mcs/media/images/65410000/jpg/_65410815_bus.jpg)
Fe aeth bws yn cludo 16 o blant ysgol i drafferthion ar ôl llithro oddi ar riw yn Abercarn yn Sir Caerffili fore Llun.
Chafodd neb ei anafu yn ddifrifol ond mae Heddlu Gwent yn cynnal ymchwiliad i amgylchiadau'r ddamwain.
Mae'r plant, sydd rhwng 8 a 12 oed, yn ddisgyblion yn Ysgol Gynradd Abercarn ac roedd y ddamwain ar Ffordd Llanfach tua 9:00am.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y bws wedi bod yn teithio ar riw o dan eira gwlyb cyn iddo fynd oddi ar y dibyn a theithio i lawr llethr.
Cafodd y bws ei ddiogelu gan winsh.
Mân anafiadau
Meddai llefarydd ar ran Ysgol Gynradd Abercarn a Chyngor Caerffili:
"Gallwn gadarnhau fod bws oedd yn cludo 16 o ddisgyblion wedi bod mewn damwain. Trwy lwc doedd yna ddim anafiadau difrifol, ond cafodd tri o'r plant fân anafiadau ac fe gawson nhw driniaeth gan feddyg teulu.
"Cafodd pob un o'r disgyblion dan sylw eu hanfon adre' o'r ysgol ac maent gyda'u teuluoedd.
"Allwn ni ddim dyfalu beth oedd achos y ddamwain gan ei fod yn destun ymchwiliad gan Heddlu Gwent. Rydym wedi cyhoeddi cyngor i'n darparwyr gwasanaethau bws ysgol i adolygu eu teithiau yn sgil y tywydd ar hyn o bryd."
Yn ôl llefarydd ar ran cwmni Stagecoach, perchnogion y bws: "Gallwn gadarnhau fod un o'n bysiau yn rhan o ddigwyddiad yn Abercarn y bore 'ma. Fe ddigwyddodd ar Ffordd Llanfach tua 9am. Mae'n debyg fod amodau yn rhewllyd a rhai ffyrdd heb eu trin.
"Diogelwch yw ein prif flaenoriaeth a chafodd pob un o'r teithwyr eu cludo'n ddiogel o'r cerbyd. Does dim sôn bod unrhyw un wedi'i anafu ac ni throdd y cerbyd drosodd.
"O dan y drefn arferol, byddwn yn helpu'r heddlu gyda'u hymchwiliad i achos y ddamwain."
Straeon perthnasol
- 21 Ionawr 2013
- 20 Ionawr 2013