Mwy o blismyn wrth godi cyllid yr heddlu o dreth cyngor
- Published
Mae Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru wedi cynyddu'r cyllid mae'r llu yn ei dderbyn o dreth cyngor i 3.98%.
Mae'r cynnydd yn golygu y bydd rhywun sy'n talu treth ym Mand D yn talu £233 y flwyddyn - 17 ceiniog yn ychwanegol bob wythnos.
Yn ei gyllideb gynta' ers cael ei ethol ym mis Tachwedd, dywedodd Winston Roddick QC y byddai'r cynnydd yn golygu bod modd cyflogi 51 yn rhagor o blismyn.
Cafodd y cynnydd sêl bendith y Panel Heddlu a Throsedd a dywedon nhw y dylai'r arian gael ei gadw i gyflogi heddweision.
Mewn adroddiad a gyflwynwyd i'r panel ddydd Llun esboniodd Mr Roddick yr angen am y cynnydd sydd uwchlaw chwyddiant.
'Diogelwch'
"Rwyf eisiau sicrhau diogelwch yn y cartre' ac mewn mannau cyhoeddus."
Dywedodd y byddai'r plismyn ychwanegol "yn rhoi gwell opsiynau o ran canolbwyntio ar leihau trosedd drwy fesurau atal a lleihau'r newid i gymunedau."
Bydd y swyddi ychwanegol yn golygu bod nifer y plismyn yn codi o 1,417 i 1,468.
Roedd angen i'r panel gymeradwyo'r cynnydd cyn i'r biliau gael eu hanfon i drethdalwyr a chafodd y cynnig ei dderbyn yn unfrydol.
Yn y cyfarfod yng Nghonwy ddydd Llun cafodd Anna Humphreys ei phenodi'n brif weithredwr yn swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throsedd, gyda chyflog o £75,000.
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Ionawr 2013
- Published
- 22 Tachwedd 2012
- Published
- 22 Tachwedd 2012
- Published
- 16 Tachwedd 2012