Damwain: Dyn yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Bu'n rhaid i ddyn gael ei dorri'n rhydd o gar oherwydd damwain yn ardal Llysfaen, Caerdydd, ddydd Llun.
Digwyddodd y ddamwain ar Heol Llaneirwg am 11:42am ac aed â'r dyn i Ysbyty Athrofaol Caerdydd mewn hofrennydd.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod y car wedi troi drosodd.
Cafodd dau griw o ddiffoddwyr o Drelai ac un criw o'r Eglwys Newydd eu galw.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol