Algeria: Gwystlon o Gymru'n 'ddiogel'
- Cyhoeddwyd

Cadarnhaodd y Prif Weinidog fod tri o wledydd Prydain wedi marw yn ystod y cyrch ar safle nwy
Mae dau o Gymru'n "ddiogel ac yn iach" er gwaetha'r cyrch ar y safle BP yn Algeria.
Fe guddiodd Garry Roberts o'r Bermo mewn atig gyda dyn arall yn ystod y gwarchae.
Y gred yw ei fod wedi rhedeg siop sglodion yn y Bermo lle mae wedi byw am 20 mlynedd.
Mae'n gyn-aelod o griw Sefydliad Badau Achub Y Bermo.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ei fod yn cael ei holi am y gwarchae cyn iddo ddychwelyd adre'.
Y Cymro arall yw Huw Edwards, 56 oed ac yn wreiddiol o Landudno.
Mae'r Prif Weinidog wedi cadarnhau bod tri o Brydeiniwr wedi eu lladd yn ystod y cyrch ar y safle nwy.
Dywedodd David Cameron fod yr awdurdodau'n credu bod tri arall o Brydain wedi eu lladd hefyd.