Rhybudd oren am fwy o eira yn ne ddwyrain Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi uwchraddio'r rhybudd tywydd yng Nghymru wedi i eira trwm achosi trafferthion ar draws de ddwyrain y wlad ddydd Mawrth.
Mae dros 470 o ysgolion ynghau ac amodau yn anodd ar nifer o ffyrdd wedi i eira ddisgyn am bumed diwrnod mewn rhannau o Gymru.
Y de ddwyrain sydd wedi ei daro waetha', yn enwedig ardaloedd Caerffili, Torfaen, Merthyr Tudful, Blaenau Gwent a Chaerdydd.
Nawr mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren ar gyfer prynhawn dydd Mawrth tan yn gynnar fore Mercher - gan annog pobl i baratoi am eira.
Gallai hyd at 10cm (4 modfedd) ddisgyn mewn mannau, ac mae disgwyl i dde ddwyrain Cymru weld yr eira trymaf unwaith eto.
Yn y cyfamser, mae yna gyfyngiadau cyflymder mewn grym ar rannau o draffordd yr M4, gyda thraffig hefyd yn drwm ar nifer o'r prif ffyrdd yn ne Cymru.
Hefyd cafodd ffordd mynydd Caerffili ei chau tua 4:00am ddydd Mawrth wedi iddi fwrw eira'n drwm yn yr ardal.
Mae ffordd osgoi'rr A48 yn Y Bontfaen ynghau oherwydd cyflwr peryglus y ffordd.
Yn y cyfamser, mae ffyrdd mynydd Rhigos, Bwlch a Maerdy yn parhau ynghau.
Ysgolion ynghau
Erbyn hyn, mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd oren o eira i siroedd yn y de ddwyrain, gan olygu y gallai fwrw mwy o eira. Mae disgwyl rhwng dau a phum centimetr yn yr ardaloedd hyn, a chymaint â 10cm ar dir uchel fel y Mynyddoedd Du.
Yn y cyfamser, mae cynghorau yn dweud wrth rieni i edrych ar eu gwefanau am fanylion ynglŷn ag ysgolion sydd ynghau yn eu hardaloedd.
Yn ogystal, mae campws Coleg Gwent Glyn Ebwy wedi cau oherwydd yr eira.
Rhondda Cynon Taf a Chaerffili sydd â'r nifer uchaf o ysgolion ynghau - tua 90 yn y ddwy sir.
Er nad oedd hi wedi bwrw rhagor o eira ar Ynys Môn, mae Ysgol Gynradd Bodedern yn parhau ynghau ddydd Mawrth oherwydd problemau gyda'r cyflenwad dŵr.
Roedd eira wedi disgyn ar draws de ddwyrain Cymru dros nos nos Lun, gan gynnwys y cymoedd.
Mae hi hefyd wedi bwrw eira eto yng Nghaerdydd, Casnewydd, Caerffili, Merthyr Tudful, Y Fenni, Pontypridd, Crughywel, Aberdâr a Chas-gwent.
Disgynnodd hyd at 16 cm o eira ym Mhontsenni, Powys, o 4:00am ymlaen.
Er bod modd teithio ar bob un o'r prif ffyrdd, mae'r awdurdodau yn cynghori pobl i gymryd gofal, yn enwedig ar yr A470 rhwng cyffordd 32 yng Nghaerdydd a Merthyr Tudful.
Mae yna hefyd draffig trwm ar yr A48 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd.
Problemau teithio
Yn ôl Trenau Arriva Cymru, mae 'na oedi ar wasanaethau rhwng Caerdydd a'r cymoedd.
Dywedodd cwmni bysiau Stagecoach bod yr eira wedi effeithio ar nifer o'u gwasanaethau yn Nhorfaen, Caerffili a Blaenau Gwent.
Mae Bws Caerdydd wedi cyhoeddi rhai newidiadau i'w hamserlen ond dywedon nhw eu bod yn ceisio cynnal cymaint â phosib o'r gwasanaethau er bod eira yn disgyn yn drwm mewn rhai ardaloedd.
Dywed awdurdodau lleol eu bod yn gweithio'n galed i geisio cadw'r ffyrdd yn glir.
Yn y cyfamser, mae'r Swyddfa Dywydd yn darogan y gallai band arall o eira weithio ei ffordd i Gymru o dde orllewin Lloegr, gan ddod â rhagor o eira trwm yn ysbeidiol.
Does dim disgwyl eira yng ngogledd a gorllewin Cymru ddydd Mawrth ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2013