Damwain: Tri yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl yn cael triniaeth yn yr ysbyty yn dilyn damwain yn Sir Gaerfyrddin fore Mercher.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw wedi i fws mini ddisgyn ar ei ochr yn Drefach ger Meidrim tua 10:15am.
Mae'r digwyddiad yn golygu fod Ffordd Bancyfelin wedi ei chau.
Yn ôl y Gwasanaeth Tân, cafodd tri o bobl eu cludo i'r ysbyty.
Yn y cyfamser bu gwrthdrawiad rhwng bws a char ar Heol Llanelli yn Nhrimsaran fore Mercher.
Dywed y gwasanaeth tân fod un person wedi ei drin gan griw ambiwlans yn y fan a'r lle.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol