Dau blentyn ar goll yng Nghymru?
- Published
Mae'r heddlu sy'n chwilio am ddau blentyn ar goll yn credu efallai eu bod wedi teithio ar drên i Geredigion.
Ar hyn o bryd mae Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn apelio am wybodaeth am leoliad Sophie Fletcher, 12 oed, a'i brawd Jack Fletcher, 10 oed.
Y gred yw bod y ddau wedi gadael eu cartref yn Darlaston, Walsall, fore Mercher.
Dywedodd yr heddlu fod y ddau efallai wedi teithio i'r Borth yng Ngogledd Ceredigion.
Craith
Mae'r ddau wedi bod ar eu gwyliau yn y pentref glan môr o'r blaen, yn ôl yr heddlu.
Dywedodd yr heddlu fod Sophie'n bum troedfedd a dwy fodfedd o ran taldra gyda gwallt brown a llygaid glas.
Y gred yw ei bod hi'n gwisgo cot gyda phrint llewpard arni a throwsus porffor.
Mae Jack yn bum troedfedd o daldra gyda gwallt melyn syth a chraith hanner modfedd o led ar ei dalcen.
Credir ei fod yn gwisgo cot Benzini gyda llythrennau melyn llachar arni, sgidiau du a chap gyda'r llythrennau 'NY' arno.
Dywedodd yr Arolygydd Stuart Vaughan: "Nid yw'r plant wedi bod ar goll o'r blaen ac er eu bod wedi mynd ag arian a dillad rydym yn pryderu amdanyn nhw, yn enwedig am fod y tywydd mor oer."
Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â'r Heddlu ar 101.