Bws Ysgol y Preseli yn gwyro oddi ar ffordd

  • Cyhoeddwyd

Mae bws oedd yn cludo 40 o ddisgyblion adre' o'r ysgol wedi gwyro oddi ar y ffordd yng ngogledd Sir Benfro.

Roedd y bws yn cludo'r plant adre'n gynt o Ysgol y Preseli yng Nghymych oherwydd y tywydd garw.

Digwyddodd y ddamwain rhwng Maenclochog a Mynachlogddu a bu'n rhaid i'r disgyblion aros ar y bws cyn i fysus eraill eu cludo adre'.

Chafodd neb ei anafu.

Dywedodd y prifathro "taw rhain oedd yr amgylchiade gwaetha, yn ôl pob tebyg, ers chwarter canrif."