Thomas ar y blaen yn Awstralia
- Cyhoeddwyd

Enillodd Geraint Thomas ail gymal agos yn ras y Tour Down Under yn Awstralia i fynd ar y blaen yn y ras gyfan.
Aeth y seiclwr 26 oed gyda Team Sky ar y blaen ar Corkscrew Hill cyn curo'r gweddill yn Rostrevor.
"Roedd e'n ddiwrnod da - ro'n in teimlo'n dda o'r dechrau," emddai Thomas, a ennillodd fedal aur gyda thîm ymlid Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Beijing 2008 a Llundain 2012.
"Fe ofalodd y tîm amdana' i, ac fe weithiodd pethau'n dda drwy'r dydd, a ddoe hefyd.
"Dwi wedi gweithio'n galed drwy'r gaeaf, ac ers gorffen ar y trac mae fy meddwl i'n llwyr ar y rasys ffordd.
"Ar ôl Beijing fe ges i 'chydig fisoedd o ymlacio, ond y tro hwn fe es i'n syth yn ôl i ymarfer ar y ffordd a meddwl am eleni."
Gorffennodd Thomas ar y blaen i Javier Moreno o dîm Movistar yn yr ail gymal, gyda Ben Hermans o dîm Radioshack yn drydydd.
Llwyddodd Thomas i osgoi damwain fawr tua diwedd y cymal a ddaeth â gobeithion pencampwr y byd, Philippe Gilbert, i ben.
Fe gymrodd le Thomas le Andre Griepel o'r Almaen fel arweinydd y ras gyfan.
Yng nghymal dydd Iau, bydd y seiclwyr yn teithio 139km o Unley i Stirling yn y bryniau uwchben Adelaide.