Bachgen yn euog o dreisio

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Caernarfon
Disgrifiad o’r llun,
Roedd yr achos yn Llys Ieuenctid Llandudno

Mae bachgen 11 oed o Wynedd wedi pledio'n euog i gyhuddiad o dreisio merch chwech oed ger ei gartref.

Roedd yr achos yn Llys Ieuenctid Llandudno.

Plediodd yn euog i dri chyhuddiad arall o ymosod yn rhywiol ac un o ymosod.

Mae'r cyhuddiad o dreisio yn cynnwys honiad iddo orfodi'r ferch i gymryd rhan mewn gweithred rywiol.

Yn ystod y gwrandawiad fe siaradodd i gadarnhau ei enw a'i ddyddiad geni.

Dywedodd y Barnwr Andrew Shaw y byddai'n cael ei ddedfrydu'r mis nesaf ar ôl i'r llys weld adroddiad y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid.

Yn bryderus

Dywedodd Nicola Jones, ar ran yr amddiffyn, ei bod yn bryderus nad oedd gwasanaethau cymdeithasol yn y gwrandawiad na'r un blaenorol.

Ychwanegodd fod y bachgen dan ofal y sir yn wirfoddol a'i bod hi'n awyddus bod cynrychiolydd yn bresennol yn y gwrandawiad nesa'.

"Dydyn nhw ddim yma ac fe ddylen nhw fod yma," meddai'r barnwr.

"Byddaf yn ysgrifennu atynt i wneud yn sicr eu bod yma."

Un o'r amodau mechnïaeth yw na ddylai adael y tŷ oni bai ei fod yng nghwmni oedolyn.

Mae'n aros gyda pherthynas tan y gwrandawiad nesaf.