Yr Elyrch yn hedfan i Wembley

  • Cyhoeddwyd
Jonathan De GuzmanFfynhonnell y llun, PA Sport
Disgrifiad o’r llun,
Jonathan De Guzman yn ymosod dros Abertawe

Abertawe 0-0 Chelsea

Fe fydd cefnogwyr Abertawe yn tyrru i Wembley unwaith eto ymhen mis ar ôl curo Chelsea dros ddau gymal yn y rownd gynderfynol nos Fercher.

Enillodd yr Elyrch y cymal cyntaf 2-0, ac fe lwyddon nhw i gadw'r fantais i sicrhau eu lle yn ffeinal un o brif gystadleuthau pêl-droed Lloegr am y tro cyntaf yn eu hanes - Cwpan Capital One.

Er bod gan Abertawe fantais o ddwy gôl yn dilyn y cymal cyntaf yn Stamford Bridge, fe gafodd unrhyw un oedd yn disgwyl i'r Elyrch geisio amddiffyn y fantais yna siom.

Fe geisiodd tîm Michael Laudrup ymosod o'r dechrau, a bu bron iddyn nhw gael eu gwobrwyo.

Gwrthymosod

Gwrthododd y dyfarnwr apêl chwaraewyr Chelsea am gic o'r smotyn am drosedd honedig Ben Davies ar Demba Ba, ac o fewn eiliadau roedd Abertawe wedi gwrthymosod hyd y cae.

Bu'n rhaid i Azpilicueta daflu ei gorff o flaen ergyd Wayne Routledge er mwyn ildio cic gornel yn hytrach na gôl.

Daeth cyfle da i Michu hefyd ond roedd golwr Chelsea, Petr Cech, ar ei orau.

Er hynny yr ymwelwyr gafodd y cyfleoedd gorau yn yr hanner cyntaf, gan reoli'r meddiant.

Ond diolch i gyfuniad o amddiffyn cadarn a blaenwyr gwastraffus, ni fu'n rhaid i Gerhard Tremmel wneud arbediad anodd yn y cyfnod cyntaf.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Gwelodd Eden Hazard y cerdyn coch yn yr ail hanner

Cerdyn coch

Stori digon tebyg oedd hi yn yr ail hanner gydag ergyd gan Demba Ba o fewn trwch blewyn i'r postyn yn fuan wedi'r egwyl.

Wrth i'r gêm fynd yn ei blaen, roedd y pwysau'n cynyddu ar Chelsea i gael o leiaf un gôl er mwyn cadw'u gobeithion o gyrraedd Wembley yn fyw.

Ond diflannu wnaeth y gobeithion wrth i Eden Hazard adael i'w rwystredigaeth fynd yn drech nag e - fe anafodd un o'r bechgyn sy'n nôl y bêl i'r chwaraewyr wrth geisio brysio - fe welodd y cerdyn coch, ac roedd rhaid i Chelsea geisio cyrraedd Wembley gyda deg dyn am y deng munud oedd yn weddill.

Roedd rhaid i Chelsea sgorio tair er mwyn mynd drwodd - ni chafon nhw'r un, ar Elyrch fydd yn mynd i rownd derfynol un o'r prif dlysau ym mhêl-droed Lloegr am y tro cyntaf yn eu hanes.

Bydd rownd derfynol Cwpan Capital One rhwng Abertawe a Bradford City yn cael ei chwarae yn Wembley ar Chwefror 24.